Mae'r Adran Genhedlol Droethol yn cynnig gwasanaeth iechyd rhywiol sy'n gyfrinachol a chynhwysfawr i gleifion allanol Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy. Mae'r brif adran ym Mangor gyda chlinigau ymylol wythnosol ar gael yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Canolfan Iechyd yr Ala, Pwllheli ac Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi. Rhoddir hyfforddiant gan yr Adran ar heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV i feddygon, nyrsys (ysbyty a chymuned) a myfyrwyr meddygol. Yn ogystal rhoddir hyfforddiant ymarferol ar gyfer trin heintiau a drosglwyddir yn rhywiol i feddygon ar y cwrs DFFP. Mae'r adran yn trefnu Cwrs Sylfaen Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STIF) yng Ngogledd Cymru ar gyfer meddygon, nyrsys, bydwragedd, cynghorwyr iechyd neu unrhyw un â diddordeb mewn gwella'u gwybodaeth ym maes iechyd rhywiol. Gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd: - Sgrinio ar gyfer yr holl heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn cynnwys HIV.
- Triniaeth ddi-dâl ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn cynnwys HIV.
- Cadw cyfrinachedd - mae canlyniadau'r holl brofion yn gyfrinachol ac NID YDYNT yn cael eu rhoi i drydydd parti heb ganiatâd y claf.
- Mae canlyniadau'r rhan fwyaf o'r profion ar gael o fewn yr wythnos.
- Olrhain cysylltiad yn dilyn trafodaeth hefo'r claf.
- Prawf a chanlyniadau HIV yr un diwrnod (Dydd Llun yn unig drwy apwyntiad).
- Gofal parhaus, monitro a thrin cleifion HIV positif yn cynnwys gofal cleifion mewnol.
- Meddyg benywaidd ar gael ym mhob clinig a meddyg gwrywaidd ym Mangor.
- Cyngor cynllunio teulu yn cynnwys prawf beichiogrwydd, condomau di-dâl ac atal cenhedlu hormonaidd brys a chyfeirio ymlaen i'r clinigau Cynllunio Teulu lleol.
- Addysg iechyd, cyngor a chynghori ar amrywiaeth o faterion iechyd rhywiol yn cynnwys ymosodiad rhywiol a phroblemau seicorywiol gyda chyfeiriadau'n cael eu hanfon ymlaen fel bo'n addas.
- Mae'n bosib a telir costau teithio os yw cleifion yn byw mwy na 15 milltir o'r clinig neu angen mynychu'n rheolaidd.
Dull Cyfeirio Gall cleifion hunangyfeirio heb lythyr cyfeirio gan Feddyg Teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall. Rhaid i bob claf ffonio (01248) 384054 rhwng 9.30 am a 11.30 am i drefnu apwyntiad mewn clinig Meddygaeth G U. Bydd achosion brys yn cael eu gweld yn y clinig nesaf fydd ar gael a gellir trafod efo Uwch Nyrs ar y rhif uchod. Clinigau Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy
Clinig |
Diwrnod / Amser |
Rhifau Cyswllt |
| Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Gwynedd |
Dydd Llun a Dydd Mercher am 1.30 pm |
01248 384054 |
| Canolfan Iechyd yr Ala, Pwllheli |
Dydd Mawrth am 1.30 pm |
01758 701000 (estyniad 31) |
| Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Cyffredin Llandudno |
Dudd Iau am 1.30 pm |
01492 860066 (estyniad 2401) |
| Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Penrhos Stanley |
Dydd Gwener am 1.30 pm |
01407 766026 | Clinigau ar gyfer cleifion HIV Positif trwy apwyntiad
Clinig |
Diwrnod / Amser |
Rhifau Cyswllt |
| Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Gwynedd (Nyrs yn arwain) |
Dydd Llun - 10.00 am - 12.00 pm |
01248 384054 |
| Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Gwynedd (Ymgynghorydd yn arwain) |
Dydd Mercher - 10.00 am - 12.00 pm |
01248 384054 | |