North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Merched a Theuluoedd > Geneteg
MERCHED A THEULUOEDD : Geneteg            
 

Geneteg Meddygol yw'r gangen o feddyginiaeth sy'n ymwneud â chyflyrau meddygol a achosir gan amrywiadau mewn genynnau neu gromosomau.  Mae'r cyflyrau hyn weithiau yn rhedeg yn y teulu.

Cynghori ar eneteg yw'r broses lle mae cleifion neu berthnasau mewn peryg o gael anhwylder a allai fod yn etifeddol yn cael eu cynghori o'r ffeithiau meddygol, yn cynnwys cwrs tebygol yn anhwylder, y tebygolrwydd o'i ddatblygu neu'i drosglwyddo a'r dulliau posib o'i osgoi neu'i atal.

Mae'r tîm Geneteg Meddygol yn cynnwys Genetegydd Ymgynghorol, Cynghorwr Geneteg (Nyrs Glinigol Arbenigol) ac Ysgrifenyddes.  Caiff y rhan fwyaf o deuluoedd eu cyfeirio at y gwasanaeth gan naill ai'r Meddyg Teulu neu Arbenigwr.  Fodd bynnag, derbynnir cyfeiriadau gan unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol.  Mae'r math o deuluoedd sy'n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth yn rhannu'n bedwar grŵp:

  • Teuluoedd sy'n bryderus oherwydd eu bod yn amau neu'n gwybod am gyflwr geneteg megis Ffibrosis Cystig, afiechyd Huntington neu Ddistroffi'r Cyhyrau.
  • Lle mae pryder am blentyn yn y teulu a chanddo oediad dysgu.
  • Ar ôl diagnosis o annormaledd yn ffetws yn ystod beichiogrwydd neu yn ystod cyfnod newydd-eni, neu erthyliad digymell ailadroddus.
  • Teuluoedd lle ceir hanes teuluol sylweddol o ganser.




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS