Yn Bodwrdda, Caernarfon lleolir y tîm Nyrsio Plant yn y Gymuned. Yn y tîm mae 4 nyrs wedi eu hyfforddi mewn gofal plant ac maen nhw'n gyfrifol am Wynedd ac Ynys Môn. Maen nhw'n darparu gofal a chefnogaeth i nifer o blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Daw cyfeiriadau o wahanol leoedd ac maen nhw'n cynnwys cyfeiriadau trydyddol o Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl ac ysbytai eraill yn Birmingham, Llundain a Manceinion. Mae'r Uned Plant a'r Uned Gofal Abennig i Fabanod yn Ysbyty Gwynedd yn cyfeirio plant sydd angen gofal ychwanegol yn dilyn rhyddau o'r wardiau. Daw cyfeiriadau eraill gan Wasanaeth Arbenigol Plant a lle bo afiechyd difrifol neu gronig sydd angen gofal nyrsio. Mae anghenion gofal iechyd cymhleth gan nifer o blant sy'n derbyn gofal ac maen nhw'n cael pecyn gofal sydd wedi'i ariannu gan y Byrddau Iechyd Lleol. Mae'r pecynnau hyn yn gwahaniaethu o 10 awr i 100 awr yw wythnos. Er mwyn parchu'r ymrwymiad hwn i'r plentyn ac i'r teulu, mae'r Ymddiriedolaeth yn cyflogi oddeutu 30 Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd i gyflwyno'r gwasanaeth yng nghartref y plentyn neu yn yr ysgol. Hefyd mae 4 nyrs wedi'u hyfforddi yn darparu gofal ysbaid i'r plant anabl mwyaf difrifol. Mae'r rhan gwyaf o blant gydag anghenion gofal iechyd cymhleth yn derbyn gofal lliniarol. Mae gwaith y tîm yn gynnwys dyletswyddau clinigol megis newid gorchuddion, pigiadau, gwirio plasr paris a sblintiau. |
|