North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Merched a Theuluoedd > Tŷ Enfys
MERCHED A THEULUOEDD : Tŷ Enfys            
 

Adeiladwyd Tŷ Enfys mewn ymateb i'r angen am lety addas ar gyfer rhieni a theuluoedd plant bach, plant a phobl ifanc sy'n cael eu derbyn yn Ysbyty Gwynedd.  Mae cyfleusterau ar gael bob amser ar y Uned Plant i un rhiant i aros wrth ochr gwely plentyn, ac fel arfer mae hyn yn dderbyniol pan fo'r plentyn yn yr ysbyty am gyfnod byr.

Mewn rhannau eraill o'r ysbyty gellir gwneud trefniadau arbennig gyda Phrif Weinyddes y Ward.

Pan mae plant angen gofal tymor hir yn yr ysbyty, mae'n bwysig fod gan y teulu ystafell gyfforddus a chartrefol lle gallent barhau i fyw fel teulu ac felly helpu i leihau'r straen o fod ar wahân.

Rhaid talu teyrnged i ymdrechion y rhai sydd wedi codi arian a charedigrwydd nifer o bobl sydd wedi gwireddu'r freuddwyd o greu Tŷ Enfys.

Athroniaeth Tŷ Enfys yw:

  • Helpu babanod, plant a phobl ifanc i barhau a'u bywyd teuluol tra maent yn yr ysbyty trwy ddarparu llety angenrheidiol a chyfleusterau i'w gofalwyr.
  • Darparu cyngor a chefnogaeth i deuluoedd sy'n aros yn Nhŷ Enfys.
  • Cydweithio a hybu perthynas waith da a chysyllu â'r holl asiantaethau sydd yn cymryd diddordeb yn y gwasanaeth a gynigir gan Tŷ Enfys.
  • Annog cysylltiadau cryf rhwng Tŷ Enfys a'r gymuned er mwyn cadw diddordeb yn y gwasanaeth a sicrhau mwy o roddion ar gyfer ei gynnal yn y dyfodol.
  • Hyrwyddo diogelwch plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal gan yr Ymddiriedolaeth.




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS