North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 05 Rhagfyr, 2008
Mewngofnodi
Llun adran Gwybodaeth - Orthoptydd
Gwybodaeth > Cysylltau > Poster Dim Ysmygy
Ymddiriedolaeth Ddi Fŵg            
 

Ar 31 Rhagfyr 2006, daeth Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru yn Ddi Fwg.  Ni chaniateir ysmygu yn adeiladau nac ar dir yr Ymddiriedolaeth.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru'n ymroi i hyrwyddo iechyd a lleihau risg ar draws ei holl wasanaethau.

Ysmygu yw'r prif beth sy'n achosi salwch y gellir ei osgoi a marwolaeth gynamserol.  Mae'n llad tua chwe gwaith mwy o bobl yn y DU na damweiniau ffordd (3,439) damweiniau eraill (8,579), gwenwyno a gorddos (3,175), llofruddiaeth a danladdiad (513), hunanladdiad (4,066) a heintiad HIV (234) gyda'i gilydd yn 22,833 (ffigyrau 2002).

Mae ysmygu ail-law, anadlu m w g tybaco pobl eraill, wedi'i brofi'n feddygol ei fod yn achosi canser yr ysgyfaint ac afiechyd y galon mewn pobl nad ydynt yn ysmygu, yn ogystal â llawer o afiechydon a mân gyflyrau eraill.

Nid yw rhoi'r gorau i ysmygu'n hawdd, ond mae manteision rhoi'r gorau i ysmygu'n enfawr.

Cliciwch i gael copi o  Bolisi Di-fwg yr Ymddiriedolaeth.

Feithiau am Ysmygu

  • Mae tua 12 miliwn o oedolion yn ysmygu ar hyn o bryd yn y DU
  • Mae ysmygu ar ei anterth ymhlith y rheiny sydd rhwng 20 a 24 oed.  Mae 36% o ddynion a 29% o ferched yn y grwp oedran hwn yn ysmygu
  • Mae mwy nag 80% o ysmygwyr yn dechrau'r arfer yn eu harddegau
  • Bob blwyddyn, mae tua 114,000 o ysmygwyr yn y DU yn marw o ganlyniad i'w harfer
  • Mae 450 o blant yn dechrau ysmygu bob dydd
  • Mae hanner oedolion ifanc yn troi'n ysmygwyr hirdymor
  • Ar gyfartaledd, mae ysmygwyr yn byw dros 10 mlynedd yn llai na phobl nad ydynt yn ysmygu

I weld faint mae ysmygu'n gostio i chi, cliciwch ar y llun. Cliciwch yma

Newidiadau Menteisiol i'ch Iechyd pan fyddwch yn Rhoi'r Gorau i Ysmygu

Pan fyddwch yn rhoi'r gorau i ysmygu, bydd eich corff yn dechrau trwsio'r niwed a wnaed ar unwaith, gan ddechrau cyfres o newidiadau manteisiol i'ch iechyd sy'n parhau am flynyddoedd.

Ar ôl 20 Munud Mae eich pwysedd gwaed a'ch cyfradd pwls yn troi'n normal
Ar ôl 8      Awr Mae lefelau nicotin a charbon monocsid yn y gwaed yn haneru ac mae lefelau ocsigen yn troi'n normal
Ar ôl 24    Awr Bydd carbon monocsid yn cael ei ddileu o'r corff a bydd eich ysgyfaint yn dechrau clirio mwcws a gweddillion ysmygu eraill
Ar ôl 48    Awr Nid oes nicotin ar ôl yn y corff.  Mae eich gallu i flasu ac arogli wedi gwella' n sylweddol
Ar ôl 72    Awr Mae anadlu'n haws.  Mae'r tiwbiau bronciol yn dechrau ymlacio ac mae'ch lefelau egni'n cynyddu
Ar ôl 2 - 12 Wythnos Mae'r cylchrediad yn gwella
Ar ôl 3 - 9   Mis Mae pesychu, gwichian a phroblemau anadlu'n gwella wrth i allu'r ysgyfaint gynyddu o hyd at 10%
Ar ôl 1 Blwyddyn Mae'r risg o ddioddef trawiad ar y galon yn disgyn i tua hanner y risg i ysmygwr
Ar ôl 10 Mlynedd Mae'r risg o ganser yr ysgyfaint yn disgyn i tua hanner y risg i ysmygwyr
Ar ôl 15 Mlynedd Mae'r risg o drawiad ar y galon yn disgyn i'r un lefel â rhywun sydd erioed wedi ysmygu

 Llinellau Cymorth

Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru Gyfan 0800 085 2 219
Llinell Gymorth i Ysmygwyr Cymru 0800 169 0 169
Llinell Gymorth y GIG i Ysmygwyr Beichiog 0800 169 9 169

Llinell Gymorth Asiaidd y GIG ar Dybaco

Wrdw

0800 169 0 881

Pwnjabi

0800 169 0 882

Hindi

0800 169 0 883

Gwjarati

0800 169 0 884

Bengali

0800 169 0 885

 Gwefannau Defnyddiol

www.smokingbanwales.co.uk

www.givingupsmoking.co.uk

www.nosmokingday.org.uk

www.ash.org.uk

www.quit.org.uk




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS