Mae Gofal Iechyd Meddwl Oedolion i Gleifion Mewnol yn cael ei ddarparu mewn pedwar lleoliad ar draws Gwynedd ac Ynys Môn: Uned Hergest Darperir gofal iechyd meddwl llym i gleifion mewnol yn Uned Hergest, sydd ar dir Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Mae gan yr Uned dair ward derbyniadau llym 18 gwely (Cynan, Aneurin a Gwalchmai) ac Uned Gofal Dwys 6 gwely (Taliesyn). Mwy .... Uned Carreg Fawr Mae Carreg Fawr yn uned breswyl 8 gwely yn Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan. Mae'r Uned yn ail-addysgu ac adsefydlu pobl a chanddynt broblemau iechyd meddwl dwys a pharhaus, ac yn y pendraw cânt eu hailsefydlu yn y Gymuned. Mwy .... Uned Gwelyau Cefnogi Coedlys Mae Coedlys yn Uned Gwelyau Cefnogi preswyl 8 gwely yn Llangefni, Ynys Môn sy'n rhoi cefnogaeth a thriniaeth i oedolion a chanddynt ystod o broblemau iechyd meddwl difrifol sydd wedi cael asesiad ac sydd angen lleoliad cleifion mewnol ond nid uned driniaeth lem. Mwy .... Uned Gwelyau Cefnogi Dryll y Car Mae Dryll y Car yn uned breswyl 8 gwely yn Y Bermo. Mae'r uned yn darparu llety yn y gymuned lle gall pobl ym Meirionnydd, a chanddynt broblem iechyd meddwl a nodwyd, gael ymateb o ansawdd uchel i'w hanghenion heb orfod teithio'n bell, na chael eu derbyn i ysbyty seiciatrig llym. Mwy .... Staff Meddygol Ymgynghorol
|