Timau Iechyd Meddwl Cymuned Mae Timau Iechyd Meddwl Cymuned yn darparu gwasanaethau i gleientiaid sy'n 18 oed neu'n hŷn sy'n dioddef problemau iechyd meddwl gan gynnwys seicosis, anhwylder deubegwn a chyfnodau isel cymedrol i ddifrifol. Darperir y gwasanaeth yn seiliedig ar waith aml-asiantaethol trwy'r Dull Rhaglen Gofal (CPA) ffurfiol. Cynigir asesiad ffurfiol i bob cleient ac mae hwn yn ceisio adnabod eu hanghenion ac asesu risg, ystod o ymyraethau therapiwtig a chefnogol yn unigol neu o fewn grŵp. Cynigir therapy ymddygiad gwybyddol, rheoli pryder, hyfforddiant pendantrwydd a grwpiau cefnogi i'r rhai sy'n dioddef o iselder. Mae gan y timau rôl werthfawr wrth asesu anghenion gofalwyr a theuluoedd cleientiaid. Gwahoddir defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â'u gofal a chaiff grwpiau gofalwyr/defnyddwyr eu cynrychioli ar nifer o fforymau cynlluio a gwneud polisïau. Mae Timau Iechyd Meddwl Cymuned Gwynedd ac Ynys Môn wedi'u lleoli ar bump safle: Ynys Môn Hafod Las, Llangefni 01248 750191 Craig Hyfryd, Caergybi 01407 764231 Ardal Arfon 26 - 28 Ffordd y Coleg, Bangor 01248 370137 Ardal Dwyfor Cilan, Stryd Penlan, Pwllheli 01758 614647 Ardal Meirionnydd Ysbyty Bron y Garth, Penrhyndeudraeth 01766 772142 Mae'r Timau'n gweithio mewn cydweithrediad agos ag ystod eang o ddarparwyr gwasanaethau yn eu hardaloedd. Mae eu cysylltiadau agos ag Uned Hergest ac Unedau Gwelyau Cefnogi yn sicrhau y gall cleientiaid symud yn hawdd rhwng gwasanaethau ysbyty a chymuned yn ôl yr angen. Mae cleientiaid a chanddynt afiechydon meddwl difrifol hirdymor hefyd yn cael archwiliad iechyd corfforol arferol sy'n gysylltiedig â Phrosiect Calon Lân y Bwrdd Iechyd Lleol. Mae hwn yn ceisio sicrhau bod y grŵp cleient risg uchel hwn, a chanddynt risg uwch na'r arfer o ddioddef problemau corfforol, yn cael eu sgrinio'n rheolaidd a lle bo problemau'n cael eu dynodi, eu bod yn cael eu cyfeirio ymlaen yn gynnar i atal problemau corfforol hirdymor.
Gwasanaeth Triniaeth Cymuned Mae'r Gwasanaeth Triniaeth Cymuned (CTS), sy'n cwmpasu Dwyfor a Meirionnydd, yn darparu nyrsio a gwaith cymdeithasol cymwys sy'n cysylltu â Rheolwyr Gofal trwy ddarparu gwasanaethau estynedig i gleientiaid a chanddynt broblemau iechyd meddwl difrifol. Gall gynnig ymyraethau tymor byr dwys i'r grŵp cleientiaid hwn i'w galluogi gael eu rheoli'n well pan fônt mewn 'argyfwng' i negyddu'r angen am ofal cleifion mewnol llym. Gall hefyd eu galluogi i gael eu rhyddhau o'r Uned Hergest yn gynt a darparu therapi hirdymor i gleientiaid sy'n ddifrifol wael yn feddyliol. Yn bennaf, mae hwn yn wasanaeth a ddarperir yn y cartref, er y gellir gweld cleientiaid mewn lleoliadau eraill. Ar hyn o bryd, maent wedi'u lleoli yn Uned Iechyd Yr Ala, Pwllheli. Mae'r gwasanaeth yn hyblyg ac yn gweithredu yn ystod yr wythnos, ar nosweithiau a phenwythnosau ac mae'n darparu llinell ffôn 24 awr i gleientiaid. |