North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Adrannau > Cyllid > Cynllunio Ariannol
CYLLID: Cynllunio Ariannol            
 

Mae'r Adran Gynllunio Ariannol yn gyfrifol am:

  • Darparu gwybodaeth ynghylch cost i brynwyr y gwasanaeth
  • Cytuno ar bris a gweithgaredd Cytundebau Lefel Gwasanaeth (SLA), paratoi rhestr brisiau i gleifion preifat a chadw systemau ar gyfer amrywiadau ar brisiau contract
  • Dadansoddi costau a gweithgaredd yr Ymddiriedolaeth a thu draw ar gyfer prosesau meincnodi
  • Darparu cefnogaeth ariannol i brofi'r farchnad o ran gwasanaethau
  • Sicrhau fod dychweliadau monitro, Dangosyddion Craidd y Cynulliad Cenedlaethol a ffurflenni ariannol yr Ymddiriedolaeth yn cael eu cwblhau
  • Rheoli y chynnal y gyllideb gyfalaf, a chynhyrchu costau cyfalaf yn chwarterol
  • Darparu mewnbwn ariannol ar gyfer cyflwyno achosion busnes
  • Menter Cyllid Preifat (PFI)

Ymwelwyr Tramor

Mae'r term 'ymwelwyr tramor' yn cyfeirio at gleifion sy'n defnyddio cyfleusterau'r GIG heb yr hawl i driniaeth am ddim oherwydd eu statws ym Mhrydain.  Mae'r rhan fwyaf o'r rheiny ar wyliau yn y wlad.  Mae'r holl gleifion heb yr hawl i gael triniaeth am ddim, naill ai'n ad-dalu'r Ymddiriedolaeth yn uniongyrchol, yn talu am eu triniaeth trwy gwmnïau yswiriant, neu telir am eu triniaeth gan eu Llywodraeth eu hunain.

Triniaeth y Tu Allan i Ardal

Mae'r term 'triniaeth y tu allan i ardal' yn cyfeirio at gleifion sy'n defnyddio cyfleusterau lleol y GIG lle nad oes gan yr Ymddiriedolaeth y contract i'w trin.  Yn gyffredinol daw'r cleifion hyn o'r tu allan i Ogledd Cymru a bydd angen triniaeth brys arnynt.  Mae'r Ymddiriedolaeth yn nodi'r cleifion hyn ac yn gwneud cais am ad-daliad oddi wrth eu prif Fwrdd Iechyd Lleol neu gomisiynwyr Ymddiriedolaeth Gofal Cychwynnol.

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS