North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Adrannau > Cyllid > Trysorlys
CYLLID: Trysorlys            
 

Mae Adran y Trysorlys yn gyfrifol am:

Cyflogau

  • Talu cyflogau holl weithwyr yr Ymddiriedolaeth yn gywir ac ar amser
  • Ateb ymholiadau staff ynghylch cynlluniau tâl a phensiwn
  • Cyflawni cyfrifoldebau statudol yngylch darparu gwybodaeth i Adrannau'r Llywodraeth e.e. Cyllid y Wlad
  • Trefnu didynnu o gyflogau ar gais y gweithiwr neu Lys
  • Darparu ystadegau ac adroddiadau ad-hoc i reolwyr ynghylch materion cyflogau/salwch
  • Talu costau teithio a chynhaliaeth
  • Gweithredu Systemau A4C ac ESR

Adran Cyfrifon Taladwy

  • Prosesu anfonebau i'w talu i gyflenwr yr Ymddiriedolaeth, cydymffurfio â chôd taliadau prydlon y CBI trwy dalu cyflenwyr o fewn 30 diwrnod o dderbyn y nwyddau neu anfoneb ddilys
  • Cynnal cronfa ddata credydwyr, cofrestr taliadau cyfnodol a chofnodion ar gyfer ffurflenni treth
  • Darparu gwybodaeth ar gais Cyllid y Wlad i'w gynnwys ar P11Dau (Buddion mewn Nwyddau)
  • Cysylltu â Swyddfa'r Drysorlys i ddarparu gwybodaeth am daliadau i sicrhau rheoli arian parod yn effeithiol

Trysorlys a Cholledion

  • Rheoli llif arian yr Ymddiriedolaeth
  • Sicrhau ad-daliad prydlon prifswm a llog Cyfalaf Difidend Cyhoeddus (PDC)
  • Monitro Terfyn Arian Allanol (EFL) o'i gymharu â'r targed a chynhyrchu adroddiadau perthnasol
  • Paratoi a chyflwyno ffurflenni TAW misol i Dollau Tramor a Chartref
  • Gweithredu fel ymgynghorydd a pherson cyswllt ar gyfer materion yswiriant
  • Rheoli cyfrestr colledion a thaliadau arbennig a chynhyrchu adroddiadau chwarterol i Reolwyr yr Ymddiriedolaeth

Adran Cyfrifon Dyledus

  • Codi anfonebau dyledwr ar ôl derbyn anfonebau ffurflenni archebion
  • Dilyn a chynhyrchu rhestr wythnosol o ddyledion sydd heb eu talu ers 28, 42 a 49 diwrnod, anfon i atgoffa dyledwyr o'r fath
  • Cysoni amrywiol gyfrifon a llyfrau arian
  • Cwblhau a chyflwyno P11Dau i Gyllid y Wlad

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS