Mae'r Adran Cyflenwadau ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ar safle Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Mae'n delio â gwahanol fathau o nwyddau - bwyd, dillad, offer meddygol arbenigol, gorchuddion, cymhorthion i'r anabl, nwyddau patholeg a radioleg, defnyddiau glanau, papur ac offer swyddfa, offer a gwasanaethau arlwyo. Mae'r Adran yn defnyddio system prynu electronig ar gyfer prosesau archebion a gwybodaeth. Mae'r rhan fwyaf o staff yn aelodau llawn y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (drwy arholiad) neu'n aelodau rhannol, drwy astudio yng Ngholeg Menai. Mae gan yr Ymddiriedolaeth gyllideb (heblaw am gyflogau) o tua £40miliwn. Bob blwyddyn rydym yn rhoi 25,000 o archebion am fwy na 75,000 o gynhyrchion. Rydym yn delio â mwy na 130 contract am nwyddau ac yn darparu cymorth a chyngor i 5000 o staff yn yr Ymddiriedolaeth. Mae gan yr Adran Strategaeth Cyflenwadau sy'n gysylltiedig ag amcanion yr Ymddiriedolaeth. Rhaid dilyn prosesau ffurfiol ar gyfer prynu llawer o nwyddau a gwasanaethau. Mae prynu'n broses cymhleth sy'n golygu rhoi hyfforddiant parhaus (wedi ei gefnogi a'i ariannu gan yr Ymddiriedolaeth) er mwyn gwybod am y ddeddfwriaeth ddiweddaraf, datblygiadau o ran cynnyrch a'r holl gyfleoedd ym maes prynu. Mae'r Adran Cyflenwadau yn gweithio'n agos efo llawer o adrannau eraill yn yr Ymddiriedolaeth gan gynnwys Cyllid, Gwaith, Technoleg Gwybodaeth, Theatrau, Wardiau a Storfeydd. Rhai o weithgareddau'r Adran Cyflenwadau: - Archebu ar ran yr ysbytai
- Nodi meysydd i arbed arian
- Gwneud trefniadau tymor hir am nwyddau a gwasanaethau angenrheidiol
- Sicrhau'r wybodaeth ddiweddaraf a chynnig cyngor am ddulliau prynu
- Gweithio efo ysbytai eraill a sefydliadau yn y sector gyhoeddus fel y cyngor lleol, y brifysgol ayyb
- Dadansoddi data a gwybodaeth
- Cylchlythyrau i sôn am waith yr adran
- Gweithio efo adrannau eraill yn yr ysbytai
- Prynu eitemau ar gyfer ysbytai ac adrannau newydd
- Holi cynrychiolwyr cyflenwyr
- Cynnal llyfrgell o gatalogau
- Hyfforddi staff ysbytai mewn materion sy'n gysylltiedig â phryni
- Delio ag achosion o anghytuno ac ymholiadau
|