Clinig Cof Mae'r Clinig Cof yn Uned Heulwen, Ysbyty Gwynedd ac mae'n darparu gwasanaeth arbenigol gan alluogi i gleientiaid gael eu cyfeirio ar gyfnod cynharach o'u salwch. Pwrpas y Clinig Cof yw darparu asesiad cynhwysfawr o swyddogaeth wybyddol claf pan fo dirywiad gwybyddol posib yn ymddangos yng nghyfnodau cynnar yr afiechyd. Bydd staff nyrsio'n darparu asesiad cychwynnol yn y Clinig Cof pan fydd claf wedi'i gyfeirio yno. Fel arfer, y cyfeirwyr yw Meddyg Ymgynghorol, Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Seiciatrig Cymuned, Seicolegwyr, Therapyddion Galwedigaethol a chydweithwyr sy'n gweithio yn yr Ymddiriedolaeth, er mewn gwahanol adrannau. Mae'r asesiad nyrsio cychwynnol yn werthfawr tu hwnt gan ei fod yn darparu gwybodaeth gefndirol am y cleient ac mae profiad y nyrsys yn galluogi i'r cleient gysylltu â'r adnodd nwyaf priodol sydd ar gael. Os bydd y cleient yn parhau gyda'r asesiad Clinig Cof, byddant yn cael asesiad cynhwysfawr gan y Therapydd Galwedigaethol. Cynhelir asesiadau perfformiad a gwybyddol ac yna bydd y cleient yn cael ei asesu gan Seiciatrydd a Seicolegydd. Yn dilyn hyn, cynhelir cyfarfod diagnostig ac yn fuan wedi hyn, bydd y cleientiaid yn cael adborth. Mae hyn yn galluogi i'r cleient gael diagnosis gyda'i ganiatâd, a fydd yn ein galluogi i roi triniaeth, ymyrraeth seico-gymdeithasol a rhwydweithiau cefnogi. Gall rhai cleientiaid gael eu rhyddhau bryd yma ond yn y rhan fwyaf o achosion, yn amodol ar y diagnosis, bydd un aelod o'r tîm amlddisgyblaethol yn olrhain eu cynnydd. Timau Gofal Dementia Cymuned Mae'r Timau Gofal Dementia Cymuned yn Ynys Môn a Gwynedd yn rhoi help arbenigol i gleientiaid a chanddynt broblemau'r cof a'u gofalwyr. Maent yn credu bod gan gleientiaid a chanddynt dementia, yr hawl i fywyd o ansawdd uchel a lles trwy ddealltwriaeth, urddas ac ymreolaeth. Nod y gwasanaeth yw galluogi'r cleient bod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain lle bynnag bo hynny'n bosibl. Mae'r gwasanaeth yn darparu ar gyfer cleientiaid sy'n cael ey cyfeirio trwy broses ffurfiol, gan ddarparu gwasanaeth i unigolion o bob oed a chanddynt ddementia. Gall hyn gynnwys eu bod wedi cael diagnosis o Glefyd Alzheimer Fasgwlar, Picks, Dementias Lewi Body, yn ogystal ag anhwylderau Corea Huntington, anhwylderau Korsakov a CJD a'u problemau cysylltiedig. Gellir asesu, monitro meddyginiaeth, rhoi cyngor ac arweiniad i ofalwyr a darparu ymyraethau cefnogol parhaus yng nghartref y cleient. Bydd y timau'n trefnu ac yn cefnogi'r cleient i fynychu amgylcheddau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal dydd y sector gwirfoddol a byddant yn hwyluso mynediad at welyau ysbytai, preswyl , nyrsio neu seibiant. Mae'r timau'n cynnwys nifer o wahanol bobl broffesiynol gan gynnwys Seiciatrydd Ymgynghorol, Seicolegydd Clinigol, Nyrsys Seiciatrig Cymuned, Therapyddion Galwedigaethol a Chefnogaeth Weinyddol. Maent yn gweithio mewn cysylltiad agos ag ystod eang o ddarparwyr gwasanaethau gyda'r bwriad o ddatblygu gofal ar y cyd, unigol, hyblyg a chynhwysfawr i'r cleientiaid a'u gofalwyr. |