Amcangyfrifir bod 17.5 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef afiechyd cronig hirdymor fel arthritis, asthma a diabetes. Yn y rhan fwyaf o enghreifftiau, ni ellir gwella cyflyrau cronig, dim ond eu rheoli. Yn aml, mae'r rhain yn para oes ac yn cyfyngu ar ansawdd bywyd, o ran yr angen i hunan-reoli a gofalu'n barhaus. Gwaith y Rheolwr Achos yw gofalu am reolaeth dydd i ddydd cleientiaid a chanddynt Afiechyd Cronig os bydd eu cyflwr yn gwaethygu. Bydd y Rheolwr Achos yn cynnal asesiad cynhwysfawr mewn cysylltiad â'r cleient a'u gofalwyr gyda'r nod o gynorthwyo'r cleient i gael iechyd, lles ac annibyniaeth gorau posibl. Drwy addysgu cleientiaid a gofalwyr i adnabod arwyddion a symptomau dirywiad yn eu cyflwr, cynllunio camau addas i'w cymryd er mwyn osgoi gwaethygiad a dirywiad yn eu hiechyd, nod y Rheolwr Achos yw gwella ansawdd bywyd y cleientiaid hyn a'u gofalwyr. Hwn fydd y broses y bydd y Rheolwr Achos yn ei ddefnyddio i gynllunio, cyd-drefnu, rheoli ac adolygu gofal unigolion i wella ansawdd eu bywydau. Pan fydd cleient / claf yn cael ei gyfeirio at y Rheolwr Achos, bydd apwyntiad yn cael ei wneud i ymweld â'r person hwnnw gartref. Yn ystod yr ymweliad hwn, bydd y Rheolwr Achos yn siarad gyda'r person hwnnw a / neu ei ofalwr ynglŷn â sut y gall reoli ei fywyd o ddydd i ddydd. Yn ystod yr asesiad hwn, fe fydd wedyn yn gallu trafod ei bryderon a gwneud cynllun gweithredu ar yr hyn y gellir ei gyflawni. Bydd y Rheolwr Achos, gyda chaniatâd yr unigolyn yn trafod y pryderon hyn gyda gwahanol aelodau'r tîm amlddisgyblaethol i ddod o hyd i ffordd o ddatrys ei bryderon. Trefnir apwyntiad dilynol neu bydd galwad ffôn i drafod materion allai fod wedi codi ac i sicrhau bod cynlluniau y cytunwyd arnynt wedi'u gweithredu. Gall Meddygon Teulu, Ymgynghorydd, Nyrsys Arbenigol a holl aelodau'r Tîm Amlddisgyblaethol gyfeirio cleifion at y Rheolwr Achos i'w hasesu. |