Mae Gofal Canolradd (y cyn Wasanaeth Ymateb Cyflym) ar gael i boblogaeth Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ac mae wedi bod yn weithredol ers mis Gorffennaf 2001. Mae'n fenter ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru, Byrddau Iechyd Lleol a Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn a Gwynedd. Mae'n cynnwys tîm amlddisgyblaethol ymroddedig sy'n ymateb i'r boblogaeth a'i brif nodau yw: - Hwyluso rhyddhad saff cynnar o'r ysbyty (cynorthwyo gyda lleihau hyd arhosiad ac felly gallu)
- Cynorthwyo i atal derbyniadau diangen i ysbyty llym
- Galluogi cleifion i aros yn eu cartrefi eu hunain wrth gael gofal iechyd a chymdeithasol amlddisgyblaethol
- Darparu adsefydliad dwys tymor byr yn y cartref yn seiliedig ar asesiad cynhwysfawr sy'n arwain at gynllun gofal unigol
- Annog annibyniaeth a galluogi cleifion i barhau i fyw gartref
- Cyflenwi ac ehangu'r ddarpariaeth gwasanaeth presennol
- Atal derbyniadau diangen i gartrefi nyrsio ac ysbytai cymuned a fyddai neu a fyddai'n gallu arwain at leoliad hirdymor, trwy diffyg adferiad neu adsefydliad
Gall cleifion o ardaloedd Ynys Môn ac Arfon gael y gwasanaeth. Mae'r nyrsus wedi'u lleoli yn Ysbyty Gwynedd ac maent yn gweithio'n agos â staff ward a'r Cyd-drefnydd Rhyddhau i gyd-drefnu cleifion addas ar y cynllun. Cyfeiriadau: - Darperir y gwasanaeth o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00 am - 5.00 pm
- Fel arfer, cynhelir asesiadau o fewn 24 awr
- Mae system cyfeiriadau agored ar gael oddi wrth bersonél clinigol a gwasanaethau cymdeithasol sy'n cynnwys Meddygon Teulu, Nyrsys Ardal, Gweithwyr Cymdeithasol Ardal, Staff Ysbytai, Nyrsys Cyswllt Ymateb Cyflym a Therapyddion
Sylwi: Ni dderbynnir cyfeiriadau'n uniongyrchol oddi wrth gleifion na gofalwyr.
| Ynys Môn |
| Ffôn: 01248 753110 |
| Ffacs: 01248 752798 |
|
| Arfon |
| Ffôn: 01286 662765 |
| Ffacs: 01286 662755 | |
|