Datganiad Amgylcheddol 2007 / 08 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd
 |
Mae Ysbyty Gwynedd wedi ail-enill Lefel 3 o'r Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd gan Rwydwaith Arena, sefydliad annibynnol sy'n darparu cefnogaeth ymarferol ar faterion rheoli amgylcheddol. Cafodd Ysbyty Gwynedd gydnabyddiaeth arbennig am y gwelliannau a gafodd eu gwneud ar gyfer safon Lefel 3 y Ddraig Werdd ym maes Rheoli Gwastraff: | - 'Dyletswydd Gofal' o gael gwared â gwastraff wedi'i wella
- Cadw cofnodion wedi'i wella
- Storio gwastraff wedi'i wella
- Perfformiad gwastraff gan gontractwyr wedi'i wella
- Monitro gwastraff wedi'i wella
Pwrpas Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd yw gwneud ymrwymiad i reolaeth amgylcheddol. Mae'r safon yn cynnwys 5 cam, ac mae pob un ohonynt yn cynnwys yr elfennau allweddol o Gynllunio, Gweithredu, Gwirio Cynydd ac Adolygu Llwyddiannau i gyflawni gwelliant amgylcheddol parhaus. - Ymrwymiad i Gyfrifoldeb Amgylcheddol
- Cydymffurfio â Deddfwriaethau
- Rheoli Effeithiau Amgylcheddol
- Rhaglen Rheoli Amgylcheddol
- Gwelliant Amgylcheddol Parhaus
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ymroi i System Reoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd, ac yng Ngorffennaf 2005, lansiwyd Ymgyrch Ymwybyddiaeth Ynni i godi ymwybyddiaeth ynni ymhlith staff. Nod yr Ymddiriedolaeth yw ennill achrediad ar draws yr Ymddiriedolaeth. Blaenoriaethau Amgylcheddol Presennol, gan gynnwys Amcanion a Thargedau Yr amcanion presennol ydi: - Lleihau Ynni Sylfaenol o 15% erbyn 2010 yn seiliedig ar lefelau 2003/04
- Gwella sut mae gwastraff yn cael ei storio ar safle
- Lleihau'r gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi o 10% arall
- Lleihau defnydd yr Ymddiriedolaeth gyfan o ddwr o 1%
- Gweithredu Cynllun Cludiant Gwyrdd
- Gwella perfformiad contractwyr adeiladu
- Gweithredu Cynllun Atal Llygredd
Perfformiad Amgylcheddol Ynni Mae'r Ymgyrch Ymwybyddiaeth Ynni yn dal i fynd ar draws yr Ymddiriedolaeth gyda mwy o Gynrychiolwyr Ynni yn cael eu recriwtio ar bob safle. Prif elfen yr Ymgyrch hon ydi ymroddiad gan uwch staff, ac yn achos Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru, mae'r Cadeirydd wedi chwarae rôl weithredol yn y project. Gwella Perfformiad Ynni Sicrhaodd yr Ymddiriedolaeth arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gyda chefnogaeth y Gronfa Ynni Ganolog. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cyflwyno mentrau arbed ynni fel rhoi boeler ar safleoedd cymunedol ac anheddau, cynllun goleuo a falfiau thermostatig a fydd yn cyfrannu at welliannau o ran effeithlonrwydd ynni yn y dyfodol. Dwr Fel rhan o Ymgyrch Ymwybyddiaeth Ynni yr Ymddiriedolaeth, mae staff wedi cael eu haddysgu a'u hannog, lle bo'n bosibl, i leihau'r defnydd o ddwr. Ailgylchu Yn Ysbyty Gwynedd cafodd 13% o'r holl wastraff domestig ei ailgylchu yn 2005/06. Mae'r ffigwr wedi cynyddu i 28% a 31% ar draws yr Ymddiriedolaeth yn dilyn gwelliant uniongyrchol mewn ailgylchu. Ymhlith y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu mae cardbord, sy'n cael ei gywasgu a'i wagio ar dir Ysbyty Gwynedd, papur, olew coginio, tiwbiau fflwroleuol, olew peirianneg, offer trydanol (WEEE) ac offer / dodrefn. Dyma ddatblygiadau eraill: - Defnyddio biniau plastig yn hytrach na rhai metal ar gyfer gwastraff clinigol a chyffredinol yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Cyffredinol Llandudno
- Mae cywasgydd newydd ar gyfer gwastraff cyffredinol ar safle Bryn y Neuadd
- Mae cynllun ailgylchi i gleifion wedi'i sefydlu yn Ysbyty Bryn y Neuadd
Datblygiadau pellach: - Datblygu lle penodol ar gyfer gwastraff / ailgylchu yn Ysbyty Gwynedd
- Hyrwyddo ailgylchu ar draws yr Ymddiriedolaeth
Strategaeth Wastraff Mae'r Ymddiriedolaeth wedi datblygu Strategaeth Wastraff i leihau cyfanswm y gwastraff a gynhyrchir o 10% o ffigwr gwaelodlin 2002/03 erbyn 2010. Edrychwch ar Datganiad Amgylcheddol 2005/06 |