
Ym mis Gorffennaf 2003, ffurfiwyd tîm oedd yn cynnwys penseiri Nightingale Associates, peirlanwyr gwasanaethau Arup a pheirianwyr adeiladu RVW Consulting i ddechrau gweithio ar safle Alltwen. Prif Gontractwyr y prosiect yma yw Allenbuild. Mae safle'r ysbyty wrth ymyl yr A487, i'r gogledd o Borthmadog, fymryn y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri ac yng nghysgod clogwyn Craig-y-Castell. Mae'r ysbyty yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd ac i fod i gael ei gwblhau yn gynnar yn 2008. Bydd yr adrannau canlynol yn Ysbyty Alltwen: Ward 30 gwely Gofal yr Henoed a Chleifion Meddygon TeuluAdran Cleifion AllanolAdran Pelydr-XAdran Mân AnafiadauUned Archwiliadau DyddFfisiotherapiTherapi GalwedigaetholPodiatreg (Chiropodi)Therapi Iaith a LleferyddTîm Datblygiad PlantTîm Iechyd MeddwlAdran Gwasanaethau Gweithredol YstadauI weld oriel luniau, cliciwch y lluniau isod:
Cynlluniwyd yr ysbyty fel nifer o adeiladau ar wahân. Cafodd yr adeilad dau lawr, gyda lleoedd i gleifion mewnol ar y llawr uchaf, ei leoli fel ei fod yn manteisio ar olau dydd, golygfeydd a phreifatrwydd i ffwrdd oddi wrth prif fynedfa'r ysbyty. Mae adeiladau un llawr, sy'n cynnwys cyfleusterau cleifion allanol, swyddfeydd a gwasanaethau cefnogi, ar lefel uwch wrth ymyl y brif fynedfa fel bo mynediad yn hawdd. Mae'r adeiladau hyn yn amgylchynu clos canolog, neu 'Ardd Aeaf'. Bydd y lle cyhoeddus hwn yn bwynt canolog i'r ysbyty a bydd modd i staff, cleifion ac ymwelwyr ei ddefnyddio trwy gydol y flwyddyn, beth bynnag fo'r tywydd. Cynlluniwyd rhannau mewnol yr adeilad yn ôl safonau gofodol newydd y GIG, ac i ddangos ymrwymiad Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru i ddarparu amgylchedd o safon uchel i gleifion. Mae gan bob ystafell wely gyfleusterau en-suite, a lleolwyd hwy i wneud yn fawr o'r golau naturiol. Mae lle ychwanegol ynddynt hefyd ar gyfer triniaethau clinigol ac ar gyfer teuluoedd sy'n ymweld. Mae tirwedd, daeareg ac ecoleg y safle'n gymleth ac fe gafodd hyn effaith ar y cynllun terfynol. Mae hanes cyfoethog i'r safle hefyd ac yno mae olion mwynglawdd o'r 19eg ganrif ac odyn sychu grawn Rhufeinig. Cyn dechrau adeiladu, cafodd y safle ei archwilio'n llawn gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Cofnodwyd yr holl nodweddion archeolegol perthnasol cyn eu symud a'u storio i'w defnyddio o bosib fel rhan o gynllun yr ysbyty. Rhoddwyd ystyriaeth bwysig i gynaladwyedd trwy gydol y broses cynllunio er mwyn creu ysbyty ar gyfer yr 21ain ganrif. Gwnaethpwyd cymaint â phosib i leihau effaith yr adeilad o ran defnydd o ynni, llyfredd, cludiant gwyrdd, ac ystyriaethau cymdeithasol. Roedd cynaladwyedd hefyd yn ffactor bwysig wrth ddewis deunyddiau, wrth inswleiddio a chynllunio'r system wresogi. Mae'r system wresogi wedi ei seilio ar foeler biomas fydd yn llosgi coed gwastraff o fforestydd lleol dan reolaeth. Mae'r boeler yn effeithiol iawn, yn lleihau gwastraff o'r broses wresogi, ac yn gollwng lefel isel iawn o CO2. Rhoddodd y Cynllun Busnes Ynni Coed grant tuag at ei osod. Ar y tu allan, defnyddir llechi lleol o chwarel Penrhyn. Bydd y to yn un sinc traddodiadol a bydd y tirwerdd yn aros fel y mae er mwyn i'r ysbyty weddu'r amgylchedd gystal â phosib. I weld lluniau diweddaraf y datblygiad, cliciwch ar y lluniau isod: 

Gwaith adeiladu yn Ysbyty Alltwen (18-04-07) |
|

Gwaith adeiladu yn Ysbyty Alltwen (04-09-07) | |