North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Meddygol > Arennol  [Haemodialysis : Haemodialysis yn y Cartref : Dialysis Gwyliau : Dialysis Peritoneaidd : YG KPA]
MEDDYGOL: Meddygaeth Arennol            
 

Uned Arennol Elidir

Uned Arennol Elidir

Rheolir Uned Arennol Elidir ar hyn o bryd gan Braun Avitum UK Ltd a bu'n gweithio mewn partneriaeth gyda'r GIG ers 1985.

Agorwyd yr Uned bwrpasol ar dir Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn 1998 ac mae'n darparu gwasanaeth dialysis cynhwysfawr i dros 100 o gleifion, gwasanaeth sy'n cynnwys:

Mae gan Adran Neffroleg gysylltiad agos gydag Adran Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.  Dechreuodd yr adran ar ddau broject ymchwil yn y 2 flynedd diwethaf:

  • Mesurau i fesur nychdod y cyhyrau mewn cleifion sy'n cael dialysis
  • Agwedd newydd tuag at wella asesu gwaith yr arennau o ran CKD

Ariannwyd y projectau gan grantiau oddi wrth Adran Ymchwil a Datblygiad Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru a Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol yr Arennau.  Cafodd o leiaf 6 phapur eu derbyn i'w cyhoeddi mewn cylchgronau meddygol dylanwadol iawn.

Mae dau Neffrolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd ac maent yn rhannu 20 gwely yn Ward Hebog.  Maent yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer achosion llym a chronig o fethiant yr arennau gan gynnwys gwasanaeth sy'n cynnig darpariaeth lawn o linellau dialysis dros dro a thymor-hir a rhoi cathetrau i mewn yn llawfeddygol a thrwy'r croen.

Mae'r clinigau cleifion allanol yn Ysbyty Gwynedd (4.5 clinig wythnosol) ac Ysbyty Cyffredinol Llandudno (1 clinig bob pythefnos).

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS