North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Ein Proffil
Ein Proffil > Bwrdd yr Ymddiriedolaeth > Mr Elfed Roberts
CADEIRYDD            
 

Mr Elfed W Roberts, QPM, MPDE, BA (Hons), FCMI

Wedi ei eni a’i fagu ym Mangor, aeth Elfed Roberts i Ysgol Ramadeg Friars y ddinas cyn dilyn addysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd lle graddiodd mewn Athroniaeth ym 1969.

Wedi hynny bu’n gweithio am ddeng mlynedd ar hugain yn rhengoedd Heddlu Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru cyn ymddeol o fod yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol ym Mawrth 2000.

Mr Elfed Roberts 

Yn ystod ei wasanaeth, derbyniodd Fedal Heddlu’r Frenhines am Wasanaeth Nodedig yn 1998 – yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines ym mis Mehefin y flwyddyn honno.

Penodwyd Mr Roberts yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ym mis Chwefror 2005 - cyn hynny bu'n Gyfarwyddwr Anweithredol yr Ymddiriedolaeth o 1 Ebrill 2003.  Cyn hynny, ac wedi ei ymddeoliad o’r Heddlu, bu’n Gyfarwyddwr Anweithredol ac Is-Gadeirydd Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru ac Is-Gadeirydd Comisiwn Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Bu hefyd yn Is-Gadeirydd Pwyllgor Amddiffyn Plant Gwynedd ac un o’r ddau a sefydlodd Cynllun Cefnogi Dioddefwyr Gogledd Cymru.

Derbyniwyd ef yn Gymrawd y Sefydliad Rheoli Siartredig ym 1993 ac mae’n gyn-Gadeirydd ac Is-Lywydd erbyn hyn Cangen Gwynedd y Sefydliad.  Mae Elfed yn aelod o Gynfor Prifysgol Cymru Bangor ac yn aelod o Sefydliad Rheoli Gofal Iechyd.  Mae hefyd yn Aseswr Annibynnol sy’n cynrychioli’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus o ran penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS