Mr Martin Jones BSc (Hons), MA, FCIPD, CIHM, DipHSM
Penodwyd Mr Martin Jones yn Brif Weithredwr yn Nhachwedd 2005. Cyn hynny bu'n Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Rheoli Perfformiad yr Ymddiriedolaeth ers Mai 1999. Ganwyd ef yn yr hen Ysbyty Dewi Sant ym Mangor a chafodd ei ddwyn i fyny ym Miwmares, Ynys Môn. |
 | Graddiodd o Brifysgol Cymru Bangor gyda gradd cyd-anrhydedd mewn Bioleg Môr a Biôcemeg cyn dechrau ei yrfa yn y GIG ym 1983 gydag Awdurdod Iechyd Gwynedd cyn symud i Ysbyty’r C&A ac yna Ysbyty Gwynedd.Symudodd Mr Jones i Birmingham ac wedyn Coventry i weithio mewn gwahanol swyddi rheoli cyn dychwelyd i Fangor ym 1992. Bu'n gweithio mewn nifer o swyddi yn yr Ymddiriedolaeth a'r sefydliadau oedd mewn bodolaeth cyn hynny cyn ei benodi'n Brif Weithredwr (Gweithredol). Enillodd Mr Jones radd M.A. ym Mhrifysgol Efrog ar arwain newid ac mae'n Cydymaith o'r 'Institute of Healthcare Management' a Chymrawd o'r 'Chartered Institute of Personel and Development'. |
|