North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Ein Proffil
Ein Proffil > Bwrdd yr Ymddiriedolaeth > Mrs Kate Elis-Williams
CYFARWYDDWR CYLLID GWEITHREDOL            
 

Mrs Kate Elis-Williams BA (Anrh) Econ, ACA

Penodwyd Mrs Elis-Williams yn Gyfarwyddwr Cyllid Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ar Chwefror 1, 1999.

Yn wreiddiol o Swydd Gaergrawnt ond yn byw yn awr ym Mangor, cymhwysodd Mrs Elis-Williams fel Cyfrifydd Siartredig yn Llundain yn 1982, a gweithio i ‘Ernst and Whinney’, ar ôl graddio o Brifysgol Newcastle.

Mrs Kate Elis-Williams

Symudodd i ogledd Cymru yn 1983, a gweithio yn y sector breifat i ddechrau. Ymunodd â’r Gwasanaeth Iechyd ym 1987 ar ôl ei phenodi gan yr hen Awdurdod Iechyd Gwynedd fel Swyddog Cyllid Uned i Uned Aberconwy. Yn dilyn hynny, ym 1991, cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cyllid i Uned Gymuned Gwynedd ac yn ddiweddarach fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cyllid i Ymddiriedolaeth Gymuned Gwynedd ym 1994.

Mae Mrs Elis-Williams hefyd yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd.




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS