Mr Craig Barton BSc (Anrh), MBA, MIHM, MCMI, Dip HSM
Yn wreiddiol o Sir Gaer, gorffennodd Mr Barton ei addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Llangefni a graddiodd mewn Swoleg Môr a Swoleg ym Mhrifysgol Bangor yn 1979. Ar ôl graddio ymunodd â'r GIG, gan ymchwilio i silicosis chwarelwyr llechi a chlefydau resbiradol. Dilynodd yrfa dechnegol ac erbyn 1992 roedd wedi symud i reolaeth gyffredinol gan weithio mewn amrywiaeth o swyddi er mwyn ennill profiad eang o wasanaethau clinigol. |

|
|
Enillodd ei MBA yn 2003 am ei astudiaeth o greadigedd, dyfeisgarwch a newid ac ar sail hyn penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Moderneiddio yn 2005. Penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Gwella Gwasanaeth yng Ngorffennaf 2006. Mae Mr Barton yn Gyfarwyddwr Cyswllt Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn. |
|