North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Ein Proffil
Ein Proffil > Bwrdd yr Ymddiriedolaeth > Mr John Davies
CYFARWYDDWR ANWEITHREDOL            
 

Mr John E Davies OBE

Mr John Davies

Yn enedigol o Fangor, addysgwyd Mr Davies yn Ysgol Friars, Bangor cyn mynd ymlaen i ennill cymwysterau proffesiynol fel Ysgrifennydd a Gweinyddwr Siartredig (ICSA) ac fel cyfrifydd yn y Sector Cyhoeddus (IPFA) a’r Sector Preifat (AAIA) drwy gyfrwng astudiaeth breifat, 1959 – 1971.

Yn dilyn dwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol fe’i penodwyd yn Swyddog Gweinyddol yn Adran Addysg Bellach y Cyngor Sir yn 1957.

Ym 1961 fe’i penodwyd i swydd Clerc a Phrif Swyddog Cyllid hen Gynghorau Trefol Llanrwst a Betws y Coed a chyflawnodd y swyddi hyn nes y cafwyd Ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1974.

Cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gweinyddol a Chyfreithiol hen Gyngor Bwrdeistref Aberconwy ac o 1985 hyd at ei ymddeoliad yn 1993 ef oedd Prif Weithredwr yr Awdurdod hwnnw.

Ers iddo ymddeol bu’n ymwneud â gwaith gwasanaeth cyhoeddus ac mae’n aelod o Gorff Gweddilliol Cymru, Cyngor Defnyddwyr y Swyddfa Bost, Cymru ac mae wedi cadeirio Paneli Ymchwilio Cwynion y GIG. Mae ar hyn o bryd yn Is Gadeirydd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru.  

Anrhydeddwyd Mr Davies a'r OBE fis Ionawr 2007 am wasanaeth cyhoeddus.




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS