Cynghorydd Meurig Bowen Hughes BSc
%20-%2023-07-07.jpg) |
Addysgwyd Mr Meurig Bowen Hughes yn Ysgol Ramadeg Llanrwst a Phrifysgol Cymru, Bangor lle graddiodd mewn Ffiseg a Chemeg. Bu’n athro Cemeg mewn sawl ysgol cyn cael ei benodi’n aelod o staff Ysgol Gyfun Llangefni lle y daeth yn Bennaeth Gwyddoniaeth ac, yn ddiweddarach, yn Ddirprwy Brifathro. | Mae ganddo brofiad helaeth o lywodraeth leol. Ef oedd Maer cyntaf Cyngor Tref Llangefni a bu’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn yn ogystal ag yn aelod etholedig o Gyngor Sir Ynys Môn. Gwasanaethodd Mr Hughes fel Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Ynys Môn. Mae hefyd yn gyn-Gadeirydd Cymdeithas Grwpiau Iechyd Cymuned Cymru. Ymysg ei ddiddordebau eraill y mae bod yn aelod o gymdeithasau a grwpiau llenyddol lleol ac ers deng mlynedd bellach ef yw Cadeirydd Cymdeithas Bysgota Cefni. |
|