North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Ein Proffil
Ein Proffil > Bwrdd yr Ymddiriedolaeth > Mrs Blodwen Jones
CYFARWYDDWR ANWEITHREDOL            
 

Mrs Blodwen Jones

Mr Blodwen Jones

Wedi ei geni a’i magu ym Mangor, ar y safle lle mae Ysbyty Gwynedd yn sefyll yn awr, addysgwyd Mrs Jones yn Ysgol y Faenol ac Ysgol Ramadeg y Merched, Bangor cyn mynd ymlaen i Brifysgol Llundain, Coleg Goldsmith lle cafodd ei hyfforddi’n athrawes. Yn ddiweddarach aeth ymlaen i astudio ar gyfer Diploma mewn Astudiaethau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Lerpwl.

Wedi cyfnod yn gweithio i Fwrdd Croeso Cymru, aeth Mrs Jones i weithio i wahanol gartrefi plant cyn cael ei phenodi’n Swyddog Triniaeth Ganolradd gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Clwyd ac yna fel gweithiwr cymdeithasol yn arbenigo mewn Gofal Plant gyda Chyngor Sir Gwynedd.

Mae’n awr yn gweithio i’r sefydliad gwirfoddol, Ymddiriedolaeth Cartref Bontnewydd, lle mae’n gyfrifol am y ganolfan hyfforddi NVQ, yn trefnu ac yn cynnal cyrsiau ar gyfer gofalwyr maeth.

Bu’n aelod o fwrdd Sefydliad Cenedlaethol Gofalwyr Maeth am y pedair blynedd diwethaf ac yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ers Ebrill 1999. Roedd yn aelod o Ymddiriedolaeth Ysbytai Gwynedd cyn hynny.




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS