Mrs Kathryn K Griffiths-Ellis
-%2023-07-07.jpg) |
Yn wreiddiol o Daliesin, Machynlleth addysgwyd Mrs Ellis yn Ysgol Uwchradd Machynlleth, Coleg Amaethyddol Llysfasi a Choleg Amaethyddol Cymru, Aberystwyth. Mae’n gyn-Gadeirydd Ffermwyr Ifanc Rhyngwladol, Cymru a Lloegr a bu’n gweithio fel Swyddog Ymchwiliol mewn Bridio Glaswellt ym Mridfa Blanhigion Cymru, Aberystwyth ac fel darlithydd rhan-amser mewn Rheolaeth Tir Glas a Ffermio yn yr hen Goleg Amaethyddol yng Nglynllifon. | Mae’n awr yn gweithio fel ffermwraig eidion a defaid llawn amser yn Llwyndyrys. Mae Mrs Ellis yn brysur yn ei chymuned leol, yn aelod o’r cyngor cymuned, yn Ynad Heddwch, yn aelod a thrysorydd Cwmni Drama Llwyndyrys yn ogystal ag yn llywodraethwr ysgol. Mae Mrs Griffiths yn aelod o’r Cyngor Eglwysig ac yn aelod o gyngor Cymdeithas Amaeth Frenhinol Cymru. Yng Ngorffennaf 2004 penodwyd hi yn Aelod Cyswllt o'r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol am ei gwasanaeth i fywyd gwledig tu draw i giat y ffarm. Bu’n aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ers Ebrill 1999. |
|