North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Ein Proffil
Ein Proffil > Bwrdd yr Ymddiriedolaeth > Mrs Shirley Bough
CYFARWYDDWR ANWEITHREDOL            
 

Mrs Shirley Bough

Mrs Shirley Bough

Yn enedigol o Fangor, magwyd Mrs Bough ym Mhenmaenmawr. Addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg John Bright cyn mynd i Lerpwl lle hyfforddwyd hi yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig.

O Lerpwl aeth Mrs Bough i astudio yn Ysbyty Mamolaeth Birmingham lle enillodd gymhwyster Bydwraig Gofrestredig. Yn ddiweddarach hyfforddwyd hi yn Ymwelydd Iechyd ym Mhrifysgol Nottingham ac Athrawes Practis Cymuned ym Mhrifysgol Caerlyr.

Bu Mrs Bough mewn amryw o swyddi nyrsio uwch yn y sector gwasanaethau llym yn Ysbyty Kings College, Llundain, yn addysg nyrsio a gwasanaethau cymuned yn Nottingham, Watford a Rhydychen.

Mae’n gyn Bennaeth Nyrsio a Materion Defnyddwyr a Chyfarwyddwraig Anweithredol gydag Awdurdod Iechyd Swydd Rydychen.

Yn 2000 symudodd Mrs Bough yn ôl i Gymru ac mae’n byw yn Rhosgadfan gyda’i gwr. Mae’n Gyfarwyddwraig Cwmni Payroll Options Limited a bu’n un o gyfarwyddwyr anweithredol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ers Medi 2001.

Ei phrif ddiddordebau yw Cysylltiad y Cyhoedd â Gwasanaethau Gofal Iechyd ac addysg a datblygiad staff gofal iechyd.




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS