North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Ein Proffil
Ein Proffil > Bwrdd yr Ymddiriedolaeth > Mrs Dilys Shaw
CYFARWYDDWR ANWEITHREDOL            
 

Mrs Dilys W Shaw

Mrs Dilys Shaw

Cafodd Mrs Shaw ei geni yng Nghaernarfon ac yna ei magu yn Llangefni. Addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg Llangefni ac ar ôl hynny yn yr Ysgol Uwchradd.

Graddiodd mewn Bacterioleg ym Mhrifysgol Lerpwl ac yna bu’n gwneud gwaith ymchwil i gwmnïau fferyllol yn Llundain a’r cyffiniau.

Daeth yn ôl i fyw i Langefni yn 1974 a bu’n gweithio yn y sector gwirfoddol i amryw o elusennau. Roedd yn un o sylfaenwyr Gofalu am Ofalwyr Croesffyrdd Ynys Môn ac mae’n Ymddiriedolwr o hyd. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Grwp Dystroffi’r Cyhyrau Ynys Môn ac yn Gadeirydd tan 2001.

Roedd yn aelod gweithgar o Theatr Fach, Llangefni a bu mewn amryw o swyddi gweinyddol. Mae hi yn dal i fod yn Aelod Oes. Bu’n ymwneud â Medrwn Môn am dipyn o flynyddoedd ac erbyn hyn mae’n un o’r Ymddiriedolwyr.

Yn 1983 dechreuodd weithio i Gyngor Iechyd Cymuned Ynys Môn lle bu’n Brif Swyddog tan ei hymddeoliad yn 2005. Yn ddiweddar hefyd roedd yn Aelod Cyswllt o Bwyllgor Iechyd Lleol Ynys Môn. Ymysg ei diddordebau arbennig mae cynnwys y cyhoedd mewn materion gofal iechyd a galluogi ffyrdd iach o fyw.




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS