| ACHC |
|
Cymdeithas Cynghorau Iechyd Cymuned |
| Achos Dydd |
|
Triniaeth y gellir ei pherfformio mewn un diwrnod, heb orfod derbyn y claf i aros dros nos yn yr ysbyty |
| Adfywiad Cardiopwlmonari |
|
Techneg achub bywyd sy'n cynnwys tylino'r galon ac anadlu ceg-wrth-geg |
| Adran Achosion Brys |
|
Adran Damweiniau ac Achosion Brys oedd yn hen enw ac fel arfer y talfyriad ED sy'n cael ei ddefnyddio |
| Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) |
|
Bellach hefo'r enw Adran Achosion Brys (ED) |
| Alergen |
|
Sylwedd sy'n gallu achosi adwaith alergaidd |
| Alergedd |
|
Y corff yn gorymateb i sylwedd sydd fel arfer yn ddiniwed |
| Anaemia |
|
Symptom sy'n cael ei achosi oherwydd nad oes digon o gelloedd coch yn y gwaed i fynd o amgylch y corff |
| Anaesthetig Cyffredinol |
|
Meddyginiaeth sy'n cael ei roi mewn pigiad neu fel nwy i wneud person yn anymwybodol ac yn rhydd o boen ar gyfer prawf, triniaeth neu lawfeddygaeth |
| Anaffylacsis |
|
Adwaith alergaidd ddwys yn achosi anawsterau anadlu |
| Angiograffeg |
|
Prawf diagnostig sy'n dangos y pibelli gwaed sy'n dod i ran arbennig o'r corff |
| Angioplasti |
|
Llawdriniaeth i agor neu ledu gwythien |
| Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD) ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) |
|
Problem ddatblygiadol yw ADD sydd fel arfer yn dod i'r amlwg pan fo'r plentyn yn ifanc, mae'n gallu bod yn ddwys iawn. Mae unigolion hefo ADD yn cael anhawster mawr i ganolbwyntio, maen nhw'n fywiog iawn ac yn fyrbwyll. Gall unigolion sy'n or-fywiog hefyd gael diagnosis o ADHD, sef Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd |
| Anocsia |
|
Symptomau'n cael ei achosi oherwydd nad oes digon o ocsigen yn y corff |
| Anterior |
|
Y tu blaen i'r corff |
| Archwiliad |
|
Proses barhaus o asesu, gwerthuso ac addasu |
| Archwiliad Clinigol |
|
Proses barhaus o asesu, gwerthuso ac addasu arfer meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill |
| ASW |
|
Gweithiwr Cymdeithasol Cymeradwy - Dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 |
| Ataliad y Galon |
|
Y term i olygu fod y galon yn stopio pwmpio |