North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cymryd Rhan > Taclo'r Termau > C / CH
TACLO'R TERMAU: C / CH            
 
CAB Cyngor ar Bopeth
Canser Afiechyd lle mae rhai celloedd arbennig yn y corff yn rhannu ac yn tyfu mewn modd afreolus
CAPD Dialysis peritoneaidd symudol parhaol
Cardiofasgwlaidd Cyfeiriad at y system gylchrediad
Cartilag Deunydd anystwyth sy'n dal rhannau o'r corff yn gadarn
Cathetr Tiwb plastig sy'n cael ei fewnosod yn y corff er mwyn rhoi meddyginiaethau neu i ddraenio hylifau
Cathetr ar y Galon Triniaeth lle mae cathetr yn cael di fwydo i mewn i'r galon i ledu'r pibell gwaed sydd wedi culhau
CDM Rheoli clefyd cronig.  gofalu am berson efo clefyd parhaus megis diabetes neu asthma
Cemotherapi Meddyginiaethau cryg sy'n cael eu defnyddio i drin canser a lewcemia
CHD Clefyd Coronaidd y Galon
CIC Cyngor Iechyd Cymuned
Claf Mewnol Claf sy'n cael ei dderbyn i'r ysbyty am gyfnod o driniaeth neu lawfeddygaeth.  Byddai cleifion yn aros yn yr ysbyty am 24 awr neu fwy
Clais Y gair meddygol am gleisio
Clamydia Bacteria gyda rhai rhywogaethau yn achosi heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
Clefyd Coronaidd y Galon (CHD) Clefyd y pibellau gwaed o gylch y galon
Clefyd Gastroberfeddol Clefyd y stumog a'r perfedd
Clefyd Hunanimiwn    Clefyd lle mae'r corff mewn camgymeriad yn ymosod arno'i hun yn llw'r mater dieithr
Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) Hanes o symptomau cronig cynyddol yn cynnwys pesychu, gwichian neu golli gwynt sy'n cael ei achosi gan y llwybrau anadlu'n culhau - dydy'r rhain ddim yn dychwelyd i'w cyflwr normal efo triniaeth
Clinigwyr Term cyffredinol ar gyfer meddygon a nyrsys sy'n gweithio'n uniongyrchol efo cleifion ym mhob rhan o'r gwasanaeth iechyd
CMHT Tîm Iechyd Meddwl Cymuned
Cofrestr Amddiffyn Plant Cofrestr yn cael ei gadw gan Gwasanaethau Cymdeithasol i fonitro plant 'mewn perygl' o dan y Ddeddf Plant 1989
Colesterol Gwaed Mesur faint o fraster sydd yn y corff.  cysylltir lefelau uchel hefo rhydweliau coronaidd yn culhau
CPA Dull Rhaglen Ofal
CPN Nyrs Seiciatrig Cymuned
Cromosom Y strwythur yng nghanol pob cell yn y corff sy'n dal cyfarwyddiadau genetig
Crud Cynnal Crud sydd wedi ei gwresogi ac sy'n cael ei defnyddio'n aml iawn i nyrsio babanod cynamserol
CSIW Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru
Cydsynio Caniatâd i gael prawf, llawdriniaeth neu driniaeth
Cyfarwyddwyr Gweithredol Uwch reolwyr sy'n eistedd ar Fwrdd yr Ymddiriedolaeth
Cyfrif Gwaed Prawf sy'n amcangyfrif y nifer o bob math o gell gwaed mewn sampl bach
Cyngor Iechyd Cymuned Corff statudol annibynnol GIG, yn cynnwys pobl leol, wedi ei sefydlu i gynrychioli buddiannau a barn cleifion, gofalwyr a'r cyhoedd
Cynnal Bywyd Sylfaenol (BLS) Triniaeth frys a roddir i ail-gychwyn anadlu a chylchrediad




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS