North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cymryd Rhan > Taclo'r Termau > G / NG
TACLO'R TERMAU: G / NG            
 
Gastroenteroleg Astudiaeth o'r system dreulio a'r afiechydon sy'n effeithio arni
GMC Cyngor Meddygol Cyffredinol
GMS Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol
Gofal Canolraddol Gofal a roddir i berson yn ei gartref ei hun
Gofal yn y Gymuned Yr help a'r cymorth sydd ei angen ar bobl i fedru byw yn annibynnol yn eu cartrefi, neu mewn tai pwrpasol yn y gymuned.  Mae'n cynnwys gwasanaethau iechyd a chymdeithasol a gwasanaethau awdurdodau lleol eraill yn gweithio gyda'i gilydd
Gor Uwch na'r norm
Gorbwysedd Pwysedd gwaed uchel sy'n uwch na'r gyfradd arferol a ddisgwylir mewn grŵp oedran arbennig
Gordyfiant Chwydd neu dyfiant
Grŵp Gwaed Mae'n bosib dosbarthu gwaed pobl mewn un o bedwar grŵp (A, AB, B, O) yn dibynnu ar y proteinau arbennig sy'n bresennol
Gwaedlif Gwaedu difrifol
Gwarcheidwad Caldicott Swyddog GIG enwebedig sy'n gyfrifol am gyflwyno a gweithredu argymhellion adroddiad Caldicott
Gwarchod Data Mae Deddf Gwarchod Data 1984 a Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990 yn gwarchod data ac yn cynnwys wyth egwyddor i ddiogelu data am unigolion
Gwasanaethau Cyn Geni    Gwasanaethau sy'n cael eu rhoi cyn geni babi, er enghraifft gwasanaethau bydwreigiaeth
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) Gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc o day 18 oed
Gwasanaethau Iechyd yn y Gymuned Gwasanaethau sy'n cael eu darparu y tu allan i'r ysbyty, fel arfer mewn clinig, meddygfa neu yng nghartref y claf
Gwasanaeth Offer yn y Gymuned Os nad ydych yn medru gwneud pethau arferol o gwmpas eich cartref oherwydd afiechyd neu anabledd, mae llawer o wahanol fathau o offer ar gael i'ch helpu yn eich bywyd bob dydd.  Mae rhain yn amrywio o eitemau bach fel offer i'ch helpu i gymryd bath a chomôd i offer mawr arbenigol wedi ei gynllunio i helpu pobl efo anableddau penodol.
Gwrthfiotig Meddyginiaeth sy'n gweithio yn erbyn heintiau bacterol
Gwrthgeulyddion Cyffuriau sy'n atal gwaed rhag ceulo
Gwrthgyfogydd Meddyginiaeth sy'n gwneud i'r claf deimlo'n llai cyfoglyd
Gwrthiselyddion Eu bwriad yw trin symptomau iselder
Gwrthgonfylsiwn Meddyginiaeth sy'n lleihau neu'n atal ffit
Gwrthgorff Protein sy'n cael ei ffurfio pan mae'r corff yn dod i gysylltiad ag alergen
Gynaecoleg Astudiaeth o afiechydon merched a genethod, yn arbennig yr organau atgenhedlu




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS