| Obstetreg |
|
Cangen mewn gwyddoniaeth meddygol sy'n ymwneud â gofal merched yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth ac am tua chwe wythnos ar ôl geni, pan fo'r organau atgenhedlu yn gwella |
| Ochrol |
|
Wysg ei ochr |
| Oesoffagws |
|
Pibell fwyd |
| Offthalmoleg |
|
Cangen meddygaeth sy'n astudio ac yn trin afiechydon y llygaid |
| Oncoleg |
|
Yr astudiaeth a'r arfer o drin tyfiannau |
| Osteoporosis |
|
Colli meinwe esgyrnaidd gan arwain at esgyrn brau a'r posibilrwydd o dorasgwrn. Yn gyffredin yn yr henoed a merched ar ôl diwedd y mislif |
| Otorhinolaryngoleg |
|
Astudiaeth o afiechydon y glust, y trwyn a'r gwddf | |
|