North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cymryd Rhan > Taclo'r Termau > P / PH
TACLO'R TERMAU: P / PH            
 
Paediatrig Meddygaeth Cyffredinol Plant
Paracetamol Meddyginiaeth sy'n lleddfu poen ac hefyd yn gostwng gwres uchel
Paramedig Gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio'n agos â gweithiwr meddygol.  Rhaid i weithwyr proffesiynol o'r fath gael gwybodaeth arbenigol a phrofiad mewn rhai meysydd penodol, ond nid oes rhaid iddynt fod â gradd meddygol.  Mae personel parafeddygol yn yr ysbyty yn cynnwys radiograffwyr, ffisiotherapyddion a dietegwyr, hefyd staff gwasanaeth ambiwlans
Peiriant Anadlu Peiriant sy'n helpu unigolyn i anadlu pan fo'n anymwybodol drwy chwythu aer i mewn i'w ysgyfaint drwy diwb yn y corn gwddf
Pelfis Yr ardal o amgylch y cluniau
Pelydr-X Sgan sy'n defnyddio ychydig bach o ymbelydredd i ddangos ardal y tu mewn i'r corff
Pelydr-X Bariwm Prawf diagnostig lle mae bariwm, sy'n dangos ar belydrau-X, yn cael ei luncu neu'n cael ei roi fel enema
PFT Profion yr ysgyfaint - prawf chwythu i sfesur faint o aer sy'n cael ei anadlu i mewn, pa mor gyflym mae'n cael ei anadlu allan a pha mor effeithiol mae ocsigen yn cael ei drosglwyddo i'r gwaed
PICU Uned Gofal Dwys Seiciatrig
Pigiad yn y Meingefn Triniaeth lle caiff sampl o hylif yr ymennydd ei dynnu o'r gwagle o amgylch madruddyn y cefn neu feddyginiaeth ei chwistrellu i mewn i hylif yr ymennydd
Pledren Sach fechan gyhorol sy'n dal wrin wrth iddo ddraenio o'r arennau
Podiatreg Trin anhwylderau'r droed
PPI Cynnwys y Cyhoedd a Chleifion
Problemau Resbiradol Problemau yn ymwneud ag anadlu
Profion Diagnostig Profion sy'n helpu penderfynu natur anhwylder neu afiechyd, er enghraifft Pelydrau-X, profion labordai ayyb
Prosthesis Cyfarpar artiffisial a ddefnyddir yn lle rhan o'r corff sydd ar goll neu wedi cael ei dynnu
Pryder    Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio profiadau megis ofn cronig, tyndra a phyliau o banig
Pwysedd Gwaed (BP) Pwysedd y gwaed sy'n llifo o amgylch y corff

 

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS