North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cymryd Rhan > Taclo'r Termau > S
TACLO'R TERMAU: S            
 
Samplo Filws Corionig (CVS)    Dull o wneud diagnosis o gyflyrau cyn i fabi gael ei eni trwy gymryd sampl bychan o gelloedd o'r placenta
Sector Gwirfoddol Sefydliadau annibynnol sy'n cael eu rheoli gan bwyllgor o wirfoddolwyr.  Maen bosib eu bod yn fawr iawn ac yn cael eu rhedeg yn broffesiynol gyda nifer fawr o staff ar gyflog neu gymdeithasau bach lleol sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr.  Fel rheol maen nhw'n cael eu hariannu drwy grant, y llywodraeth neu gronfa elusennol
Sedatif Meddyginiaeth sy'n gwneud unigolyn yn gysglyd
Seicoleg Glinigol asesu a thrin problemau ymddygiad a phroblemau eraill iechyd meddwl, rhan o dîm aml-broffesiynol fel arfer, er enghraifft, yn cynnwys meddygon, nyrsys a staff gofal cymdeithasol
Seicolegol Yn ymwneud â'r meddwl
Sganiwr CT Sganiwr Tomograffi Cyfrifiadurol. Sganiwr sy'n cynhyrchu delweddau croestoriad manwl o'r corff na ellir eu cael trwy ddefnyddio Pelydrau-X arferol
Sganiwr MRI Sganiwr delweddu cyseinedd magnetig.  Sganiwr sy'n cynhyrchu delweddau o rannau o'r corff trwy ddefnyddio maes magnetig cryf a thonnau electromagnetig
Sgil Effeithiau Effeithiau disgwyliedig meddyginiaethau
Stent Tiwb plastig neu fetel sy'n cael ei ddefnyddio i gadw pibell yn y corff yn agor
Steri-strips Plasteri di-haint sy'n cael eu defnyddio i gau toriadau bach ar ôl llawdriniaethau
Steroid Meddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio i leihau llid
Stoma Agoriad artiffisial, er engraifft traceostomi neu golostomi
Strôc Pwl sydyn o wendid sy'n effeithio ar un ochr y corff, o ganlyniad i atal llif y gwaed i'r ymennydd.  Gall effaith strôc wahaniaethu o ran difrifoldeb
Syndrom Casgliad o symptomau sy'n ymddangos gyda'i gilydd
System Lymff Rhwydwaith o bibellau sy'n cludo dŵr a mwynau o amgylch y corff

 

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS