| Tan |
|
Is na'r norm |
| Tawddgyffur |
|
Meddyginiaeth a gaiff ei roi yn yr anws a'r rectwm |
| TCI |
|
I ddod i mewn |
| Telefeddygaeth |
|
Cyfleusterau technolegol uwch sy'n cynnig ymghynghoriad a diagnosis o bell trwy drosglwyddo delweddau ar y cyd o glaf mewn un lle i weithiwr meddygol mewn lle arall |
| Therapi Celf |
|
Bwriad Therapi Celf yw helpu pobl i wella trwy ddefnyddio celf fel proses greadigol ac fel math o therapi i ddatrys problemau emosiynol pobl |
| Therapi Thrombolyctig |
|
Y defnydd o gyffuriau i chwalu ceulad gwaed |
| Therapydd Galwedigaethol |
|
Gweithiwr iechyd proffesiynol wedi ei hyfforddi yw Therapydd Galwedigaethol sy'n gweithio efo pobl o bob oedran |
| Therapydd Iaith a Lleferydd |
|
Maent yn darparu gwasanaethau i oedolion a phlant gydag anhwylder cyfathrebu a/neu broblemau llyncu. Gallai'r rhain gynnwys asesu a gwneud diagnosis o anhwylderau cyfathrebu a llyncu, triniaeth, cyngor, a chynnig systemau cyfathrebu eraill |
| Thoracs |
|
Y frest |
| Tiwb trwyn i'r stumog |
|
Tiwb sy'n cael ei roi yn un o'r ffroenau ac i lawr drwy'r bibell fwyd i'r stumog. Mae'n cael ei ddefnyddio i roi maeth yn uniongyrchol yn y stumog neu i ddraenio aer neu hylif o'r stumog |
| Torllengig |
|
Cyflwr lle mae gwendid ar gyhyrau'r abdomen yn caniatau i ran o'r leinin ac weithiau'r coluddion i wthio drwodd a ffurfio lwmp |
| Trallwysiad Gwaed |
|
Dull o drosglwyddo gwaed a roddir gan un person i mewn i berson arall |
| Trawsblaniad Mêr Esgyrn (BMT) |
|
Dull o drosglwyddo mêr asgwrn a roddir gan un person i berson arall sydd â mêr asgwrn diffygiol |
| Treial Clinigol |
|
Project ymchwil sy'n profi ac yn cynharu meddyginiaethau, triniaeth, offer meddygol, profion diagnostig neu ffyrdd o atal clefydau |
| Treial Cuddiedig |
|
Mewn treial cuddiedig ni fyddwch yn cael gwybod pa driniaeth a roddir i'ch plentyn. Mae hyn yn rhwystro chi a'ch plentyn rhag cael eich dylanwadu gan eich disgwyliadau o ran effaith y driniaeth |
| Trwyth Mewnwythiennol |
|
Trwyth o hylifau neu feddyginiaethau sy'n cael eu rhoi yn uniongyrchol mewn gwythien | |
|