North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Merched a Theuluoedd > Corun i Sawdl
MERCHED A THEULUOEDD: Rhaglen Corun i Sawdl            
 

Ydych chi'n byw yn ardal LL41, Blaenau Ffestiniog ac yn rhiant / yn ofalwr plentyn oedran ysgol?  Os felly, mae'n bosib mai hon ydy'r rhaglen i chi.

Mae Corun i Sawdl yn rhaglen holistig sy'n rhoi pwyslais ar iechyd a lles yr unigolyn ac yn gwrs 12 wythnos.  Mae'n rhad ac am ddim, yn anffurfiol, ac mae bob sesiwn yn cynnwys gweithgaredd sy'n hybu bywyd iach.

Mae'r cwrs yn gwella ffitrwydd corfforol, yn rhoi mwy o hunan hyder ac ymwybyddiaeth bersonol ac yn helpu i roi grym i'r unigolyn.

Dyma rai o sgiliau'r tîm sy'n rhoi'r Rhaglen:

  • Therapi Gyflenwol
  • Ymwelwyr Iechyd
  • Nyrsio Iechyd Meddwl
  • Nyrsio Merched
  • Hyfforddiant Ffitrwydd
  • Maeth / Coginio a Chynllunio Prydau

Bwriad y Rhaglen ydy hybu iechyd a lles teuluoedd ifanc a'u plant drwy:

  • Hybu lles pobl ifanc, teuluoedd a rhieni
  • Datblygu sgiliau newydd a gwella'r rhai sy'n bodoli eisoes
  • Mwy o ran mewn gweithgareddau cymuned

Gallwn wneud hyn drwy gynnwys pobl sy'n gwybod am faterion iechyd a lles yn y gymuned leol, yn poeni am faterion iechyd a lles, neu'r rheiny sy'n gallu creu newid.  Mae cymryd rhan a chynnwys pobl yn golygu mwy na dim ond gofyn i bobl roi eu barn am ein gwasanaeth; mae hefyd yn golygu rhoi cyfle i bobl fod yn rhan o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywyd ar bob lefel.

Gall hyn rymuso unigolyn drwy fagu hyder a hunan-barch a chynnig cyfle i ddeall yr anawsterau sy'n wynebu sefydliadau o ddydd i ddydd.

Mae Rhaglen Corun i Sawdl yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r asiantaethau statudol a gwirfoddol hyn:

Dyma oedd gan rhai o'n Cleientiaid i'w ddweud cyn cymryd rhan yn y Cwrs Corun i Sawdl:

" ..... dim cefnogaeth fel gwr ac ddim yno fel tad."

" ..... hanes o drais domestig yn ystod plentyndod."

 

"Roeddwn i mewn twll, yn unig ac yn ynysig."

 

" ... dim teimlad o emosiwn yn fy mhriodas ...."

 

"Rydw i eisiau edrych ar y ffordd y gwnes i ddelio â'm mhlant."

Dyma oedd gan rhai o'n Cleientiaid i'w ddweud ar ôl cymryd rhan yn y Cwrs Corun i Sawdl:

"Erbyn hyn dydw i ddim yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer iselder."

 

"Rydw i wedi dysgu llawer o sgiliau i helpu cadw cydbwysedd yn fy mywyd."

 

 

"Mae fy nheulu wedi elwa, hefyd mae gen i well perthynas efo fy ngwr.  Rydym yn gallu siarad a chynllunio am y dyfodol - rydym yn edrych ar ôl ein gilydd."

 

 

"Roeddwn bob amser yn ddig oherwydd beth oedd wedi digwydd i mi fel plentyn.  Doedd gen i ddim llawer o feddwl ohonof fy hun a dim hyder yn fy ngallu fel mam.  Mae'r rhaglen a'r therapi wedi rhoi ystyr newydd i'r gair 'bywyd' i mi.  Rydw i'n fwy pendant, yn dangos fwy o gariad at fy mhlant ac mae gen i fwy o hunan-barch."

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Corun i Sawdl

Yr Hen Adran Ffisio

Ffordd Tywyn

Blaenau Ffestiniog

Gwynedd

LL41  3UR

Ffôn / Ffacs:  (01766) 833050




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS