Bob dydd rydym yn gwneud penderfyniadau am lawer o bethau yn ein bywydau. Yr enw ar y gallu i wneud penderfyniadau yw galluedd meddyliol. Gall pobl gael anhawster i wneud rhai penderfyniadau naill ai o hyd neu o bryd i'w gilydd. Gallai hyn fod oherwydd fod ganddynt: - Anabledd Dysgu
- Dementia
- Problem Iechyd Meddwl
- Anaf i'r Ymennydd neu Strôc
Bydd Deddf Galluedd Meddyliol yn effeithio ar bobl yng Nghymru ac yn Lloegr, yn y sefyllfaoedd hyn. Bydd hefyd yn effeithio ar eu teuluoedd, gofalwyr, staff iechyd a gofal cymdeithasol, a phobl eraill sy'n gysylltiedig. Gallai ymwneud â phob math o benderfyniadau mawr lle nad oes gan y person y gallu - materion ariannol, gofal cymdeithasol, triniaeth feddygol a threfniadau ymchwil er enghraifft, yn ogystal â phenderfyniadau pob dydd. Yn gyffredinol bydd y Ddeddf yn effeithio ar bobl 16 a hyn yn unig. Bydd y Ddeddf yn dod i rym yn llawn yng Nghymru ac yn Lloegr ar 1 Hydref 2007. I ddysgu sut allai'r Ddeddf: - Effeithio arnoch chi
- Y camau diogelwch pwysig sy'n cael eu creu o'i herwydd
- Sut mae'r Ddeddf yn effeithio ar drefniadau presennol
Edrychwch ar y taflenni wybodaeth manwl a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y cyd â sefydliadau eraill.
Mae rhagor o fanylion ar gael o: |
|