|
Gwasanaethau > Cymryd Rhan > Ebost i Glaf
Mae ein Gwasanaeth E-bost i Glaf yn eich galluogi i yrru neges e-bost i glaf yn Ysbyty Gwynedd. Caiff y negesuon eu danfon a llaw gan ein staff neu wirfoddolwyr cyn gynted a sy'n bosibl, heblaw am benwythnosau a gwyliau. Noder: Mae'n bosibl na allwn ddanfon negesuon i gleifion mewn rhai adrannau o'r ysbyty. Gwasanaeth E-bost i Glaf Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru a cafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth a Cyngor Iechyd Cymuned Ynys Môn. Caiff y gwasanaeth ei ehangu i gynnwys ysbytai eraill o fewn yr Ymddiriedolaeth yn fuan. Wrth gwblhau'r ffurflen, sicrhawch eich bod yn cynnwys enw llawn y claf yr hoffech yrru eich neges ato / ati, enw'r ward a llinell gyntaf eu cyfeiriad yn adran 'Neges' y ffurflen, os gwelwch yn dda. Darllenwch y disgrifiad llawn o'r Gwasanaeth E-bost i Glaf ynghyd a'r amodau defnydd isod os gwelwch yn dda. |
|
|
|
Ynghylch y Gwasanaeth E-bost i Glaf |
|
| |
|
Ni ddylid defnyddio’r Gwasanaeth E-bost i Glaf ar gyfer cyfathrebu cyfrinachol, yn cynnwys gwybodaeth feddygol, diagnostig, neu bersonol. Mae pob neges yn cael ei darllen a’i hargraffu gan staff neu wirfoddolwyr cofrestredig Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru. Bydd negeseuon anaddas, yn cynnwys ceisiadau busnes, yn cael eu dileu. Nid yw Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am ddosbarthu’r e-bost, nac unrhyw atebolrwydd dros yr e-bost na chynnwys yr e-bost sy’n cael ei anfon at glaf. Efallai y bydd negeseuon e-bost yn hwyr yn cael eu dosbarthu. Mi fyddwn yn gwneud pob ymdrech i ddosbarthu eich neges yn brydlon, ond ni allwn sicrhau y bydd hyn yn digwydd. Os na fydd y claf yn Ysbyty Gwynedd, byddwn yn trio cysylltu â’r anfonwr. Os bydd y claf wedi’i ryddhau eisoes, byddwn yn trio cysylltu â’r anfonwr a bydd y neges yn cael ei dileu. Bydd negeseuon na lwyddwyd i’w hanfon hefyd yn cael eu dileu. |
|
|
|
|