Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd Yn dilyn asesiad gan Rwydwaith ARENA, sefydliad annibynnol sy'n darparu cefnogaeth ymarferol ar faterion rheoli'r amgylchedd, mae Ysbyty Gwynedd wedi ennill Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd Lefel 3. Pwrpas Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd yw gwneud ymrywmiad i reolaeth amgylcheddol. Mae'r safon yn cynnwys pum cam, ac mae pob un ohonynt yn cynnwys y prif elfennau o Gynllunio, Cymryd Camau, Gwirio Cynnydd ac Adolygu Cyrhaeddiadau i wireddu gwelliant amgylcheddol parhaus.
| 1. Ymrwymiad i Gyfrifoldeb Amgylcheddol |
| 2. Cydymffurfio â Deddfwriaethau |
| 3. Rheoli Effeithiau Amgylcheddol |
| 4. Rhaglen Rheoli Amgylcheddol |
| 5. Gwelliannau Amgylcheddol Parhaus | Mae'r Ymddiriedolaeth yn ymroi i System Reoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd ac ym mis Mehefin 2005 lansiwyd Ymgyrch Ymwybyddiaeth Ynni i godi ymwybyddiaeth ynni ymhlith staff. Nod yr Ymddiriedolaeth yw ennill achrediad ar draws yr Ymddiriedolaeth yn 2007. Blaenoriaethau Amgylcheddol Presennol, gan gynnwys Amcanion a Thargedau Yr Amcanion presennol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yw: - Lleihau Ynni Sylfaenol o 15% erbyn 2010 yn seiliedig ar lefelau 2003/04
- Gwella sut mae gwastraff yn cael ei storio ar safle
- Lleihau'r gwastraff sy'n mynd i safle tirlenwi o 10% arall
- Lleihau defnydd yr Ymddiriedolaeth gyfan o ddwr o 1%
- Gweithredu Cynllun Cludiant Gwyrdd
- Gwella perfformiad amgylcheddol contractwyr adeiladu
- Gweithredu Cynllun Atal Llygredd
Perfformiad Amgylchreddol Ynni Mae'r Ymddiriedolaeth mewn cysylltiad â Nifes Consultancy, wedi ymgymryd ag Ymgyrch Ymddiriedolaeth-eang i godi ymwybyddiaeth ynni ymhlith staff. Dechreuodd hyn yn gynnar yn 2005 ac mae'n barhaus. Mae'r protocolau a'r strategaethau a ddatblygwyd yn ystod yr Ymgyrch wedi'u rhoi ar waith fesul cam i Ymddiriedolaethau GIG eraill yng Nghymru ac mae'n llunio sail iddynt gynnal eu hymgyrch eu hunain. Prif elfen yr Ymgyrch yw ymroddiad uwch staff, ac yn achos Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru mae'r Cadeirydd wedi chwarae rôl weithredol yn y prosiect. Mae llawer o'r Ymgyrch wedi canolbwyntio ar safle fwyaf yr Ymddiriedolaeth, Ysbyty Gwynedd, lle bo'r ffigyrau defnyddio ynni diweddaraf yn dangos bod effeithiolrwydd ynni wedi'i fesur gan berfformiad wedi gwella 8% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r Ymddiriedolaeth yn ymroi i gynnal y cynnydd hwn ac mae'n credu y gellir gwneud mwy o arbedion dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, drwy gynnal y momentwm y mae'r Ymgyrch hon wedi'i greu. Gwell Perfformiad Ynni Yn ôl yr ystadegau blynyddol a gasglwyd ac a ddadansoddwyd gan Ystadau Iechyd Cymru, mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru wedi llwyddo i wella'i pherfformiad ynni (defnydd o drydan) yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae'r defnydd o drydan ar draws yr Ymddiriedolaeth wedi gostwng 1%, o 47,144 GJ yn 2004/05 i 46,422 GJ yn 2005/06. Mae'r gostyngiad hwn yn y defnydd o drydan wedi'i gyflawni er gwaethaf y cynnydd blynyddol yn yr alw ar y gwasanaeth, a chynnydd ym maint yr ystâd a chyflyrau tywydd garw'r gaeaf diwethaf. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi diogelu arian oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, gyda chefnogaeth y Gronfa Ynni Ganolog, i archwilio ymhellach i fentrau arbed ynni, fydd yn cyfrannu at welliannau o ran effeithiolrwydd ynni yn y dyfodol. Dwr Fel rhan o Ymgyrch Ymwybyddiaeth Ynni yr Ymddiriedolaeth, mae staff wedi cael eu haddysgu a'u hannog, lle bo'n bosibl, i leihau'r defnydd o ddwr ac mae hyn wedi arwain at ostyngiad o 1% yn y defnydd o ddwr. Ailgylchu Yn Ysbyty Gwynedd, mae 13% o'r holl wastraff domestig yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn golygu'n bod wedi osgoi anfon 63 tunnell o wastraff i safle tirlenwi drwy ei ailgylchu. Ymhlith y gwastraff a gafodd ei ailgylchu roedd cardbord, papur, caniau tun ac offer trydanol gan gynnwys cyfrifiaduron. Rydym wedi prynu cywasgydd i droi cardbord yn fyrnau i hwyluso ailgylchu. Mae'r Ymddiriedolaeth yn y broses o ddatblygu cynllun ailgylchu cetris inc. Strategaeth Wastraff Mae'r Ymddiriedolaeth wedi datblygu Strategaeth Wastraff i leihau cyfanswm y gwastraff a gynhyrchir o 10% o ffigwr gwaelodlin 2002/03 erbyn 2010. |