Os ydy rhywun yn ddifrifol sâl neu wedi cael damwain, ewch i'ch Adran Argyfwng agosaf neu galwch 999 am Ambiwlans. Os ydy rhywun angen meddyg ar frys a methu aros tan fydd y feddygfa yn ail agor, cysylltwch â'r Gwasanaeth Allan o Oriau Gwynedd ac Ynys Môn ar 0845 8501362. Am driniaeth ddeintyddol brys neu mewn argyfwng, galwch y Llinell Gymorth Ddeintyddol Gogledd Cymru ar 0845 60 10 128. Os ydych chi angen gwybod pa Fferyllfeydd sydd ar agor dros Ŵyl y Banc, gallwch gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47. Cysylltwch â'r Fferyllfa leol am gyngor ar fân anhwylderau a phroblemau gyda'ch ail bresgripsiwn. |
|