Mae’r adran hon yn egluro’r hyn y gallwch ddisgwyl pan fyddwch chi’n dod i Ysbyty Gwynedd neu Ysbyty Cyffredinol Llandudno fel claf preifat o dan ofal Meddyg Ymgynghorol. Cleifion preifat yw’r rhai hynny sy’n ymrwymo i dalu am lety a gwasanaethau clinigol. Bydd talu’n breifat am unrhyw ran o driniaeth claf yn golygu yr ystyrir y driniaeth gyfan yn breifat ac yn agored i daliadau. Enghraifft o hyn fyddai talu am gyffur ansafonol nad yw ar gael gan y GIG. Wrth gael ei dderbyn yn breifat, dylai claf preifat ddisgwyl i’r Meddyg Ymgynghorol sy’n ei dderbyn fod yn bersonol gyfrifol am ei (g)ofal. Ar gyfer yswiriant, mae Ysbyty Gwynedd yn ysbyty band ‘C’ yng nghategorïau ysbytai BUPA - Ysbyty GIG heb uned benodol i gleifion preifat. Deddfwriaeth
Llety
Taliadau
Sut i Dalu
Cyngor i Gleifion
Manylion Cyswllt
|
|