Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru
Newyddion
06/06/2008 - Celfyddydau'r Gwanwyn yn Ysbyty Eryri

Annie Pritchard, Jennie Ellis and Carrie Hughes, Cleifion Ysbyty Eryri yn gweithio ar y project celf

llun: Annie Pritchard, Jennie Ellis and Carrie Hughes, Cleifion Ysbyty Eryri yn gweithio ar y project celf.

Bu’r artist gweledol Nancy Evans a’r Bardd Iwan Llwyd yn cydweithio gyda’r cleifion a’r staff yn Ysbyty Eryri i gynhyrchu cyfres o ddarnau tecstil printiedig, sydd wedi dod a chreadigrwydd newydd i’r ysbyty.

Gan ddefnyddio tymor y Gwanwyn ac Adnewyddu yn ysbrydoliaeth, mae’r cleifion wedi ysgrifennu cerddi a chynhyrchu printiadau sgrin. Defnyddiwyd ffabrigau wedi eu hail-gylchu i brintio arnynt a chafodd y darnau terfynol eu gwnïo ynghyd gan ddefnyddio patrymau cwiltio Cymreig traddodiadol yn ysbrydoliaeth.

Dywedodd Liz Aylett, sy’n arwain ar y Gelfyddydau mewn Iechyd i Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru: “Drwy’r rhaglen Celfyddydau mewn iechyd ac mewn partneriaeth a Cyngor Gwyned, mae’r project peilot hwn yn enghraifft arall o sut y gall y celfyddydau wneud cyfraniad bositif i brofiadau cleifion tra’n aros yn yr ysbyty ac mae hefyd yn galluogi staff ac ymwelwyr yn y broses.”

Dywedodd Janet Roberts, Cydlynydd Strategaeth Gofal Cymdeithasol a Lles ar gyfer Pobl Hŷn Cyngor Gwynedd: “Mae’r strategaeth yn annog pobl hŷn yng Ngwynedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n hybu lles corfforol a meddyliol. Mae’r prosiect hwn yn Ysbyty Eryri yn enghraifft wych o hynny.”

Cafodd y prosiect ei gyllido trwy Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn, Cyngor Gwynedd a’i gefnogi gan Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd a Rhaglen Gelfyddydau mewn Iechyd a Lles, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru.



 


Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Ffôn. (01248) 384384 | Ffacs. (01248) 370629

Argraffwch y dudalen