Llwyddodd tri o feysydd clinigol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru gyrraedd targedau amseroedd aros cenedlaethol newydd cyn yr amser penodedig.
Erbyn hyn nid yw cleifion sy’n dod i adrannau Gynaecoleg, Dermatoleg ac Orthodonteg yr Ymddiriedolaeth yn aros mwy na 26 wythnos o gael eu cyfeirio i’w trin. Dyma’r targed a osodwyd i holl wasanaethau Ymddiriedolaethau GIG Cymru erbyn Rhagfyr 2009 a Gogledd Orllewin Cymru yw un o’r ddwy Ymddiriedolaeth yng Nghymru i sicrhau’r gwobrau hyn am eu perfformiad.
Llwyddwyd i leihau amseroedd aros Gynaecoleg trwy adolygu’r systemau a’r gwasanaethau, a thrwy wella gwaith tîm meddygon, rheolwyr a staff ysgrifenyddol. Sefydlwyd system fwy hyblyg ar gyfer clinigau cleifion allanol, oedd yn sicrhau bod cleifion a fu’n aros fwyaf yn cael eu gweld gyntaf.
Yn ôl Dr Glynne Roberts, Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth Merched a Theuluoedd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru, “Cydweithiodd ein staff i gyd i sicrhau’r amseroedd aros hyn. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiannau hyn, gan anelu at leihau nifer apwyntiadau bob claf fel y byddant yn dod i’r ysbyty’n llai aml am brofion diagnostig a thriniaeth. Dylai hyn olygu y bydd y broses gyfan o gyfeirio i driniaeth yn cymryd llai o amser.
Rhoddwyd £50,000 i’r Ymddiriedolaeth am gyrraedd targed amseroedd aros Gynaecoleg a defnyddir yr arian hwn i ddatblygu Uned Dydd Cyn-geni haws mynd iddi i ferched yn gynnar yn eu beichiogrwydd. Bydd hyn yn lleihau’r pwysau ar y ward, gan fod dros 5,000 yn dod i’r Uned gyfredol bob blwyddyn, a bydd yn cyfrannu tuag at leihau amseroedd aros yn gyffredinol.
Cafwyd amseroedd aros llai ym maes Dermatoleg trwy ddatblygu sgiliau Nyrsys Arbenigol. Erbyn hyn nyrsys sy’n arwain clinigau yn yr adran ac mae mân driniaethau llawfeddygol fel biopsi’r croen, a gynhaliwyd gynt gan feddygon, yn cael eu rhoi gan Nyrsys Arbenigol. Mae’r adran wedi newid ei harferion gwaith hefyd er mwyn sicrhau bod cymaint o gleifion â phosib yn gallu cael diagnosis a thriniaeth yn ystod un ymweliad â’r ysbyty.
Defnyddir y wobr o £10,000 am sicrhau amseroedd aros yn gynnar i brynu amrywiaeth o offer i helpu’r adran barhau i ddarparu gwasanaeth cyflym ac effeithiol o ran gwneud diagnosis o gleifion a’u trin.
Llwyddwyd i leihau amseroedd aros Orthodonteg trwy wneud y mwyaf o allu’r clinigau gyda chymorth staff cefnogi deintyddol. Adolygwyd prosesau gweinyddol hefyd i sicrhau bod yr holl apwyntiadau sydd ar gael yn y clinig yn cael eu defnyddio. Cryfheir y gwasanaeth trwy barhau i ddatblygu perthynas agos gyda deintyddion er mwyn sicrhau y gall cleifion gael triniaeth mor agos at eu cartrefi â phosib.
Defnyddir y wobr o £10,000 am gyrraedd y targedau amseroedd aros i ddatblygu cyfleusterau llawfeddygol orthodontig yn Ysbyty Gwynedd. Bydd hyn yn defnyddio sgiliau staff yr adran yn fwy effeithiol er mwyn lleihau’r amseroedd aros am driniaeth.
Yn ôl Craig Barton, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Gwella Gwasanaeth: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd y targedau hyn yn gynnar. Mae hyn yn glod i’r holl staff a gydweithiodd i ddarparu gwasanaeth mwy effeithiol i’n cleifion. Yr her yn awr fydd parhau i weithio i gynnal y safonau hyn ac i sicrhau amseroedd aros gwell mewn adrannau eraill.”