
Mae agoriad Ysbyty Alltwen, yr ysbyty cymuned newydd yn Nhremadog wedi cael ei ail-drefnu.
Mae ymchwiliad i’r adeilad cyn ei drosglwyddo i'r Ymddiriedolaeth yn dangos nad yw’r draeniau o dan yr ysbyty wedi’u gosod i safon foddhaol. Yn dilyn cyngor arbenigol, mae Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru felly wedi penderfynu bod angen gwaith ychwanegol cyn y gallent dderbyn bod yr adeilad wedi’i gwblhau.
Bydd hyn yn golygu na fydd yr ysbyty yn agor tan yn gynnar yn 2009 gyda’r gwaith ychwanegol yn debygol o gymryd hyd at 12 wythnos i’w gwblhau.
Dywedodd Martin Jones, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru: “Rydym yn siomedig iawn bod agoriad Ysbyty Alltwen wedi cael ei ddal yn ôl eto. Ond nid yw’r Ymddiriedolaeth yn teimlo bod modd iddynt dderbyn trosglwyddiad yr ysbyty tra bo amheuon yn aros ynghylch effeithiolrwydd y system ddraenio. Felly rydym wedi penderfynu y dylem ofyn i’r contractwr gywiro’r holl ddiffygion cyn y gallwn ni dderbyn bod yr adeiladu wedi’i orffen a chyn y gallwn ddechrau ar y broses gomisiynu cyn croesawu’r cleifion cyntaf yno.”
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cynnal diwrnod agored yn yr ysbyty i’r cyhoedd sy’n dymuno gweld yr ysbyty cyn yr agoriad swyddogol. Cyhoeddir dyddiad y diwrnod agored yn fuan.