Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru
Newyddion
18/11/2008 - Gwobrwyo Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru am fod yn Wyrdd

Trystan Lewis a Bethan Nickson yn derbyn y wobr gan Jane Davidson

llun: Rhelowr Trafnidiaeth yr Ymddiriedolaeth, Trystan Lewis a Bethan Nickson, Rhelowr Cyffredinol Glendid a Rheoli Haint, Betha Nickson yn derbyn y wobr gan y Gweinidog Amglychedd, Jane Davidson.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru wedi llwyddo i ennill ‘Gwobr Tîm Amgylcheddol y GIG’ yng Ngwobrau Busnes a Chynaliadwyedd Cymru 2008.

Gwobr yw hon ar gyfer sefydliadau’r GIG sydd wedi sefydlu Tîm Amgylcheddol i weithredu rhaglen i helpu i ddefnyddio adnoddau yn effeithlon, lleihau effeithiau amgylcheddol a hybu cynaliadwyedd.
                                                                                                                 Mae Tîm Amgylchedd Gwyrdd yr Ymddiriedolaeth wedi llwyddo i weithredu Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd i wella perfformiad amgylcheddol cyffredinol ac atal llygredd.

Mynychodd cynrychiolwyr o’r Ymddiriedolaeth gyflwyniad yn y Senedd yn ddiweddar, i dderbyn y wobr gan Jane Davidson, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai. Nod y gwobrau yw hyrwyddo a dathlu llwyddiant sefydliadau yng Nghymru sydd wedi gwella eu perfformiad amgylcheddol ac sy’n ystyried pob agwedd ar gynaliadwyedd yn eu gweithrediadau.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r Ymddiriedolaeth wedi dod yn llawer mwy cynaliadwy ac wedi lleihau ei defnydd o adnoddau. Ymysg yr hyn a gyflawnwyd mae gostyngiad o 1.5% yn y defnydd o ddŵr - digon i lenwi hanner pwll nofio Olympaidd. Bu gostyngiad o 422 tunnell fetrig mewn gollyngiadau CO2 - digon i lenwi 80 balŵn aer poeth a bu gostyngiad o 63 tunnell fetrig mewn gwastraff domestig - sy’n cyfateb i bwysau 14 eliffant!

Meddai Craig Barton, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwella Gweithrediadau a Gwasanaeth Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru: “Rydym wrth ein bodd o fod wedi derbyn y wobr hon gan ei bod yn adlewyrchu’r ymdrechion cyson a wnaed gennym fel Ymddiriedolaeth i ddod yn fwy cynaliadwy a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.”



 


Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Ffôn. (01248) 384384 | Ffacs. (01248) 370629

Argraffwch y dudalen