
llun: Enillwyr y gwobrau yn y Gynhadledd Gwella Gwasanaeth gyda Elfed Roberts, Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru
Cynhaliwyd pedwaredd Gynhadledd Gwella Gwasanaethau flynyddol yn ddiweddar i ddathlu gwelliannau o fewn Iechyd Cymuned Gogledd Orllewin Cymru.
Cynhaliwyd yr achlysur yn Technium Cast, Bangor gan Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ac roedd yn gyfle i rannu arfer da wrth wella ansawdd gofal i gleifion o dan y thema, ‘Anelu at Gyflawni’.
Nod y diwrnod oedd dathlu straeon llwyddiannus o wella gwasanaethau lleol a chyflwyno gwobrau am brojectau mwyaf llwyddiannus 2008. Yn ystod y prynhawn cafwyd cyfle i wrando ar amryw o gyflwyniadau oedd yn adlewyrchu agenda moderneiddio yn y gymuned iechyd.
Rhoddwyd gwobrau am wella gwasanaethau o dan y categorïau canlynol::
Gwelliant Personol Cynaliadwy Gorau
Mandy Jones, Uwch Nyrs, Uned Asesu Achosion Meddygol, Ysbyty Gwynedd. Mandy yw’r un a ysgogodd Cynllun Peilot Dilyn Cynnydd y Gyfarwyddiaeth Feddygol. Mae hi’n ystyried hyn fel gwaith tîm sydd wedi arwain at leihau’r amser a gymerir i dderbyn cleifion o’r uned asesu i wardiau eraill. Cyflawnwyd hyn drwy gynnwys rheolwyr wardiau yn y cynllun.
Gwelliant Gwasanaeth Tîm Gorau
Rhoddwyd y wobr hon i ddau dîm ar y cyd. Aeth y gyntaf i Rachel Williams a thîm Ward Enlli am ward orthopaedig wedi ei neilltuo.
Arweiniodd y project hwn at leihau cyfartaledd hyd aros claf o 7.5 diwrnod i 4.8 gan newid agweddau a rhoi grym i staff herio arfer drwg. Llwyddwyd i wneud hyn trwy roi mwy o ran mewn prosesau i bob lefel o staff yn y ward a gwella rôl Gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd ac un o’r prif lwyddiannau yw na chafwyd adroddiad o haint yn y 2 fis diwethaf.
Cyflwynwyd y wobr arall i Marnel Owen a Sharon Wells am eu gwaith yn y gymuned. Datblygodd eu tîm ddull safonol o roi gorchuddion cyntaf a dilynol yng nghartref y claf. Defnyddir bocsys plastig yn awr fel man gweithio glân i staff ac i gadw offer lle nad yw’r cartref bob amser mewn cyflwr i leihau perygl o haint.
Gwelliant Gwasanaeth Cymuned Iechyd Gorau
Cyflwynwyd y wobr hon gan Dr Damian McKeon a’i dîm am ddatblygu Gwasanaeth Apnoea Cwsg yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy. Nod hyn yw gwella mynediad i ofal cychwynnol ac eilaidd a’r cysylltiadau rhyngddynt ac erbyn hyn gwelir cleifion mewn clinigau cwsg amlddisgyblaethol arbenigol. Bydd y project hwn hefyd yn gwella gwybodaeth i gleifion ar driniaethau at anhwylderau cwsg gan gynnwys apnoea cwsg.
Enillydd Cyffredinol: Stephen Jones, Pennaeth Therapi Iaith a Lleferydd
Ym Mai 2008 roedd Ymddiriedolaeth Gogledd Orllewin Cymru’n wynebu delio â niferoedd mawr o blant ar restr aros Therapi Iaith a Lleferydd. Ar y pryd roedd 233 o blant ar y rhestr aros, yn aros dros 23 wythnos. Erbyn Medi 2008, roedd Stephen a’i dîm wedi lleihau’r rhestr aros a dim ond 66 o blant oedd yn aros mwy na 13 wythnos a hynny mewn adran fodern ac effeithiol gan ddefnyddio’r un adnoddau a staff.
Meddai Craig Barton, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Gwella Gwasanaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru: “Roedd y gynhadledd yn gyfle ardderchog i rannu arfer da a dathlu’r hyn a gyflawnwyd gan ein staff dros y flwyddyn. Y bobl sy’n gwneud y GIG mor arbennig ac roedd yr achlysur yn gyfle i gydnabod ymrwymiad, creadigrwydd a hyblygrwydd ein staff yn amgylchedd anodd a chyfnewidiol y gwasanaeth iechyd."