Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru
Newyddion
23/03/2009 - Noson Agored Gyhoeddus yn Ysbyty Alltwen

Ysbyty Alltwen from the South

Mae noson agored gyhoeddus wedi ei threfnu yn Ysbyty Alltwen ar 1af Ebrill rhwng 5 ac 8 yr hwyr.

Bydd y noson yn gyfle i ymwelwyr i gael cerdded o gwmpas yr Ysbyty iweld y bensaernïaeth drawiadol a’r cyfleusterau modern i gleifion. Caiff ymwelwyr eu croesawu gan rai o’r staff arbenigol fydd yn gweithio yn Ysbyty Alltwen ynghyd ag aelodau o’r tîm dylunio.

Mae gan yr Ysbyty nifer o nodweddion dylunio amgylcheddol gan gynnwys boiler economiadd iawn sy’n llosgi sglodion coes tra mae’r uchafbwyntiau oddi mewn yn cynnwys ffenestri sy’n ymestyn o’r llawr i’r nenfwd gan wneud yn fawr o’r olygfa yn y wardiau, gardd aeaf a chasgliad o waith celf trawiadol a gomisiynwyd yr arbennig ar gyfer yr ysbyty.

Bydd gwasanaeth bysiau am ddim i rai sy’n dymuno mynychu’r noson agored yn rhedeg o Barc Porthmadog (Gorsaf Fysiau) pob ugain munud rhwng 5 a 7.40 yr hwyr.


Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Ffôn. (01248) 384384 | Ffacs. (01248) 370629

Argraffwch y dudalen