Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru
Newyddion
31/07/2009 - Penodi Nyrs Arbenigol Clefyd Parkinson yng Nghonwy

Jan Roberts with Parkinson's Society Members

llun: Jan Roberts, y Nyrs  Clefyd Parkinson's gyda aelodau Cangen Conwy o'r Gymdeithas Clefyd Parkinson's

Mae Nyrs Arbenigol Clefyd Parkinson wedi’i phenodi yn ardal Conwy.

Bydd Jan Roberts yn gyswllt uniongyrchol ar gyfer yr holl gleifion sy’n dioddef o’r clefyd dirywiol yng Nghonwy. Bydd yn darparu gwasanaeth arbenigol sy’n canolbwyntio ar reoli effaith y clefyd.

Bydd y gwasanaeth, sydd wedi’i leoli yn yr ysbyty, yn canolbwyntio ar asesu anghenion gofal unigolyn, yn ceisio gwella ansawdd bywyd pob unigolyn, ac yn atal neu leihau cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â Chlefyd Parkinson. Yn rhan o’i swydd, bydd Jan yn darparu cefnogaeth emosiynol i gleifion a’u gofalwyr wrth iddyn nhw geisio dygymod â’r diagnosis yn y lle cyntaf. Bydd hi hefyd yn parhau i fod yn bwynt cyswllt ac yn darparu cefnogaeth ac yn ymweld â chartrefi’r cleifion, gydol y clefyd.

Dywedodd Jan Roberts: “Rwy’n edrych ymlaen at wneud cyfraniad cadarnhaol. Mae genyn ni wasanaeth Clefyd Parkinson da yn barod a fy nod i ydy adeiladu ar y gwasanaeth hwn er lles y cleifion. Un pwynt cyswllt fydd yna, a hwnnw’n wyneb cyfarwydd a fydd yn ei helpu nhw i wneud y defnydd gorau o’r amrywiaeth o ofal rydyn ni’n ei gynnig.”

Cyn cael y swydd hon, roedd Jan yn gweithio fel Prif Weinyddes yn yr Uned Asesu a Therapi lle cafodd brofiad eang a gwerthfawr o reoli effaith Clefyd Parkinson. Ariannir y swydd ar y cyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru a’r Gymdeithas Clefyd Parkinson.

Dywedodd Dr. Hindle, meddyg ymgynghorol â diddordeb arbenigol mewn anawsterau symud: “Roedden ni’n falch iawn o benodi nyrs arbenigol mewn Clefyd Parkinson. Rydyn ni wedi bod yn gweithio i gael y swydd hon ers blynyddoedd. Rydyn ni’n arbennig o falch gan fod hyn yn golygu y gallwn ni ddatblygu gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer Clefyd Parkinson yn yr ardal. Mae gan Jan lefel uchel o arbenigedd mewn rheoli Clefyd Parkinson a bydd yn defnyddio’r sgiliau hyn er lles y cleifion. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Gymdeithas Clefyd Parkinson a Bwrdd Iechyd Lleol Conwy am yr arian parhaus i recriwtio ar gyfer y swydd hon ac i’w gwarchod ar gyfer y dyfodol.”

Mae Clefyd Parkinson yn gyflwr niwrolegol cynyddol sy’n effeithio ar y ffordd mae’r corff yn symud, fel cerdded, llyncu ac ysgrifennu. Mae symptomau’n cynnwys cryndod yn y dwylo neu’r breichiau, y cyhyrau’n mynd yn dynn ac yn anystwyth, a symud yn arafach. Nid oes gwella i’r clefyd ar hyn o bryd a therapi cyffuriau yw’r brif driniaeth sydd ar gael i leddfu a rheoli symptomau.

Fe gafodd aelodau Cangen Conwy o’r Gymdeithas Clefyd Parkinson gyfarfod â Jan Roberts, y Nyrs Arbenigol Parkinson yng Nghonwy am y tro cyntaf yng nghyfarfod y grŵp ddydd Llun, 13 Gorffennaf ym Maes Cwstennin, Cyffordd Llandudno.
Dywedodd Sara Owen, Swyddog Cefnogi’r Gangen a Gwirfoddoli: “Mae’r Gymdeithas Clefyd Parkinson wedi gwneud ymdrech fawr i ddiogelu’r swydd hon, ac mae’n wych bod gennyn ni, o’r diwedd, Nyrs Arbenigol Clefyd Parkinson yn ein hardal ni. Bydd y penodiad hwn yn gwella’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig i’r rhai sy’n dioddef o’r clefyd yn sylweddol.”

Ychwanegodd: “Mae bod yn aelod o gangen wir yn helpu pobl i ddeall Parkinson ac yn gwneud i bobl deimlo nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Rydw i’n annog unrhyw un sy’n byw efo Parkinson yn ardal Conwy i ddod i un o’n cyfarfodydd “.
Am fwy o wybodaeth am y grŵp cefnogi, cysylltwch â:
Beverly Owen
(01492) 585 262 bevowen@pendyffryn.plus.com




Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Ffôn. (01248) 384384 | Ffacs. (01248) 370629

Argraffwch y dudalen